Neidio i'r prif gynnwy

Poen Cronig yn y Pelfis

Beth yw poen cronig yn y pelfis?

Mae'n boen sy'n digwydd yn y pelfis a gall bara mwy na 6 mis. Gall dwysedd y poen fynd a dod. Weithiau, gall y poen wella am beth amser ond bydd yn dychwelyd maes o law. Er y gall poen yn y pelfis fod yn gyson neu'n amrywiol, mae rhai mathau o boen yn y pelfis yn gysylltiedig ag amseriad cylchred y mislif.
 
Gall poen cronig yn y pelfis fod yn annifyr iawn a gall fod yn anodd ei grwpio, yn enwedig os na wnaed diagnosis pendant.
 
Beth yw symptomau poen cronig yn y pelfis?
Er bod poen yn aml yn anodd ei ddisgrifio, mae llawer o fenywod â phoen cronig yn y pelfis yn disgrifio'r symptomau canlynol:

  • poen difrifol a chyson
  • poen sy'n mynd a dod 
  • poen dolurus mud
  • poen llym a chrampio
  • pwysau neu drymder yn ddwfn yn y pelfis

Yn ogystal, gall symptomau gynnwys:

  • poen yn ystod cyfathrach rywiol
  • poen wrth weithio'r corff
  • poen tra byddwch chi'n eistedd am gyfnodau hir.

Beth sy'n achosi poen cronig yn y pelfis?
Mae sawl peth yn achosi poen yn y pelfis, gan gynnwys endometriosis, codenni ar yr ofari, problemau'r bledren a phroblemau'r coluddyn. Gwaetha'r modd, nid yw llawer o fenywod yn darganfod beth sy'n achosi'r poen yn y pelfis. Yn sicr, nid yw diffyg achos yn golygu nad yw'r poen yn bodoli ac na ellir ei reoli. Mae cyfran sylweddol o fenywod a welwn yn y clinig yn cael help, er nad ydynt yn gwybod beth yw achos penodol y poen cronig yn y pelfis.
            
Dysgwch ragor am achosion cyffredin Poen Cronig yn y Pelfis

Sut gwneir diagnosis o boen cronig yn y pelfis?
Bydd yr arbenigwr a welwch yn y clinig yn gofyn nifer o gwestiynau i chi. Bydd y rhain yn cynnwys cwestiynau am eich iechyd cyffredinol, a chwestiynau sy'n benodol i'ch poen. Mae'n debygol y cewch gwestiynau am symptomau yn gysylltiedig â gweithrediad y coluddyn a'r bledren, ynghyd ag unrhyw symptomau posibl a gewch gyda chyfathrach rywiol. Gall fod angen i'r arbenigwr a welwch gynnal profion ychwanegol, gan gynnwys sgan uwchsain. Os bydd angen profion ychwanegol arnoch, trafodir y rhain gyda chi.
 
Pa driniaethau sydd ar gael ar gyfer poen cronig yn y pelfis?
Rydym ni'n defnyddio amrywiaeth o opsiynau triniaeth yn ein clinig. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio meddyginiaeth, llawdriniaeth twll clo a dulliau seicolegol. Yn aml, bydd triniaethau ar gyfer poen cronig yn y pelfis yn cael eu haddasu'n unigol ar gyfer eich gofal.
 
A oes unrhyw sefydliadau sy'n cynnig cymorth ychwanegol?
Oes, mae nifer o sefydliadau cymorth, rhai ohonynt yn darparu cyfarfodydd lleol i fenywod â phoen cronig yn y pelfis i drafod materion yn ymwneud â'u poen. Mae'r cyfarfodydd hyn o gymorth i lawer o fenywod, gan nad ydynt yn teimlo'u bod yn dioddef ar eu pen eu hunain.

Dilynwch ni