Neidio i'r prif gynnwy

Clinig Endometriosis / Poen Pelfig

Beth fydd yn digwydd yn y clinig?

Ymgynghoriad

Ar ôl cael eich cyfarch yn y clinig, cewch holiadur sy'n cofnodi'ch symptomau. Yna, bydd y meddyg ymgynghorol, cofrestrydd neu ymarferydd nyrsio yn eich gweld chi.

            Ffotograff o fwgwd llawfeddygol

 

Gallwch lawrlwytho'r holiadur yma

 

Archwiliad

Mae archwiliad gynecolegol gan eich meddyg yn bwysig iawn. Byddai eich meddyg teulu neu eich gynecolegydd yn teimlo'ch stumog, yna'n archwilio'r wain gyda sbecwlwm. Dyma'r offeryn sy'n cael ei ddefnyddio i wneud prawf taeniad Pap. Yna, gwneir archwiliad gweiniol a all ddatgelu man tyner. Gallai'r meddyg hefyd deimlo ychydig o nodiwlau yn y wain, a fyddai'n awgrymu meinwe craith y tu ôl i'r wain neu ar y coluddyn.

Yn aml, bydd yr archwiliad gynecolegol yn gwbl normal. Nid yw hyn yn golygu nad yw endometriosis yn bodoli, oherwydd gall fod ar fenyw glefyd ysgafn neu gymedrol o hyd sydd heb achosi i feinwe craith arwyddocaol allu cael ei deimlo mewn archwiliad gweiniol. 

Sgan uwchsain

Yr unig annormaledd y byddai sgan uwchsain yn ei weld fyddai coden o endometriosis yn yr ofarïau. Yr enw ar hyn yw 'coden siocled' oherwydd ei fod yn llawn hen waed sy'n edrych fel siocled wedi toddi.  Pan fyddwn ni'n gweld codenni siocled yn yr ofarïau, mae hynny fel arfer yn golygu endometriosis datblygedig. Yn gyffredinol, mae'r codenni hyn yn datblygu pan fydd endometriosis eisoes wedi tyfu mewn sawl rhan o'r bol.

Laparosgopi

Laparosgopi yw'r unig ffordd y gallwn wneud diagnosis pendant o endometriosis. Mae hyn hefyd yn cael ei alw'n 'llawdriniaeth twll clo', sy'n cael ei gwneud o dan anesthetig cyffredinol mewn ysbyty. Bydd toriadau bach iawn (hanner centimetr) yn cael eu gwneud yn y bol a rhoddir laparosgop (mae hwn fel telesgop) i mewn trwy'r botwm bol. Mae'r laparosgop wedi'i gysylltu â chamera a theledu, fel y gall y llawfeddyg weld yr holl organau gynecolegol.

 

Dilynwch ni