Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth a Chefnogaeth

Mae cael diagnosis neu gefnogi rhywun â chyflwr hirdymor yn gallu bod yn heriol. Mae ystod eang o adnoddau ar gael i roi mwy o wybodaeth, cymorth a chefnogaeth i chi, i’ch teulu neu i’ch gofalwr(wyr). Rydym wedi cynnwys rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol a dolenni isod ar y dudalen hon.

Grŵp cymorth ffeibrosis yr ysgyfaint / ILD Caerdydd
Mae’r grŵp cymorth lleol hwn yn agored i bob claf â ffeibrosis yr ysgyfaint a’u teuluoedd. Y nod yw rhoi’r cyfle i chi gwrdd â phobl eraill sy’n byw gyda ILD neu ffeibrosis yr ysgyfaint. Mae’r grŵp yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau dim ond rhywun sydd â phrofiad uniongyrchol fyddai’n ymwybodol ohonynt mewn gwirionedd.

Dyddiadau 2024
2pm-3.45pm Ysbyty Dydd Ysbyty Llandochau

26 Ionawr 2024
22 Mawrth 2024
31 Mai 2024
26 Gorffennaf 2024
27 Medi 2024
29 Tachwedd 2024

Os yn bosibl, gofynnwn i chi adael neges i ddweud wrthym eich bod yn bwriadu mynychu neu gallwch alw heibio - bydd croeso mawr i chi beth bynnag.
Julie Hocking a Doria Barbonchielli, Nyrsys Anadlol Arbenigol ILD
Rhif ffôn: 029 21826419

 

Cefnogaeth leol
Caerdydd a’r Fro - Nyrsys Arbenigol ILD

Ar gyfer ymholiadau clinigol, er enghraifft ynghylch eich meddyginiaeth ILD, gallwch gysylltu â’r nyrs arbenigol. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd i gysylltu â’r nyrs arbenigol neu â’ch Meddyg Teulu, gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredin (FAQ) neu cliciwch yma.
Nyrs Arbenigol ILD: 02921826419
Gadewch neges gyda’ch enw, dyddiad geni ac, os yn bosibl, rhif ysbyty a disgrifiad byr o’ch ymholiad. Bydd y nyrs arbenigol yn eich ffonio’n ôl cyn gynted â phosibl. Nodwch nad yw’r rhif hwn yn cael ei fonitro ar benwythnosau nac ar wyliau banc.

Tîm Gofal Cefnogol
Mae’r tîm gofal cefnogol yn dîm sy’n gweithio’n agos iawn â’r tîm ILD yng Nghaerdydd. Mae’r tîm gofal cefnogol yn dîm amlddisgyblaethol arbenigol sy’n gweithio gyda chleifion i helpu i reoli symptomau. Efallai y bydd y tîm ILD yn awgrymu eich atgyfeirio at y tîm gofal cefnogol os ydynt yn teimlo y gallai hyn fod o fudd i chi.

Llinellau cymorth / grwpiau cymorth eraill

  • Action for pulmonary fibrosis support - gwasanaeth ffôn, e-bost a chyfeillio
    Mae Action for Pulmonary Fibrosis yn elusen sydd â llinell gymorth dros y ffôn a thrwy e-bost, sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor am fyw gyda ffeibrosis yr ysgyfaint. Gallwch hefyd siarad â chyfaill gwirfoddol. Mae hwn yn gyfle i siarad ar y ffôn yn rheolaidd gyda rhywun sydd wedi’i effeithio gan ffeibrosis yr ysgyfaint. Gall eich cyfaill gwirfoddol, sydd wedi ei hyfforddi, eich helpu i reoli’r newidiadau a’r heriau sy’n codi yn sgil byw gyda ffeibrosis yr ysgyfaint. Byddwch yn cael cyfle i rannu eich stori a siarad am eich profiadau. Gallant hefyd eich cyfeirio at wybodaeth ac adnoddau defnyddiol.
    Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth
  • Llinell gymorth Asthma and Lung UK.
    Mae Asthma and Lung UK yn elusen sy’n ceisio gwella iechyd yr ysgyfaint yn y DU. Maent yn cynnig cefnogaeth trwy linell gymorth dros y ffôn neu drwy e-bost.
    Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth
  • Asbestos awareness & Support Cymru AASC
    Mae AASC yn elusen annibynnol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth a darparu cymorth i ddioddefwyr salwch sy’n gysylltiedig ag asbestos a’u teuluoedd ledled Cymru.

    “Rydym yma i arwain y rhai sy’n cael diagnosis o salwch sy’n gysylltiedig ag asbestos a’u teuluoedd at y cymorth sydd ei angen arnynt gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a chyfreithiol yn y sectorau statudol, gwirfoddol a phreifat i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cymorth gorau sydd ar gael yng Nghymru. Ymunwch â’n teulu o gefnogaeth
  • Grŵp cymorth i gleifion trawsblaniad yr ysgyfaint
    - Gwefan trawsblannu organau’r GIG - am ragor o wybodaeth a grwpiau cymorth
    - Ffeibrosis yr ysgyfaint - grŵp cymorth i gleifion trawsblaniad yr ysgyfaint

Cymorth i Ofalwyr

Hunanreolaeth
“Sut alla i helpu fy hun?” Roedd hwn yn un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnwyd pan wnaethom gynnal arolwg cleifion diweddar yng Nghaerdydd. Yn dilyn hyn, rydym wedi datblygu adran hunanreoli i rannu rhai awgrymiadau ar sut y gallwch chi helpu i reoli eich cyflwr a datblygiad araf ILD. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhai dolenni at ragor o wybodaeth am ymwybyddiaeth ofalgar a grwpiau eraill, fel canu er budd iechyd yr ysgyfaint.

Cefnogaeth Rhoi’r Gorau i Smygu
Bydd ein tîm yn hapus i siarad â chi am roi’r gorau i smygu a gallwn eich cyfeirio at gwnselydd rhoi’r gorau i smygu lleol a all gynnig cymorth i chi. Yng Nghymru, mae gan gleifion hawl i feddyginiaeth am ddim i’ch helpu i roi’r gorau iddi.

Cymorth Ariannol - Budd-daliadau a Thaliadau Annibyniaeth Personol
- Hawlio budd-daliadau ar gyfer ffeibrosis yr ysgyfaint - Action for Pulmonary Fibrosis
- Cyngor ar Bopeth - pa fudd-daliadau sydd ar gael i mi?
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol, gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredin ar y wefan drwy glicio yma.

Bathodyn Glas

- Cyngor Caerdydd - gwneud cais am fathodyn glas

Gofal Lliniarol
Mae Gofal Lliniarol ar gael i gleifion nad yw eu clefyd neu eu salwch bellach yn ymateb i driniaeth wellhaol. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau gofal lliniarol yng Nghaerdydd, gweler ein tudalen tîm gofal lliniarol.
- Gofalu am rywun â chyflwr ar yr ysgyfaint hirdymor ar ddiwedd eu hoes - Marie Curie
- Llyfryn rheoli diffyg anadl - Marie Curie

Elusennau ILD a sefydliadau sy’n cynnig cymorth
- Action for pulmonary fibrosis
- Asthma + Lung UK (British Lung Foundation)
- Asbestos awarness and support Cymru
- Pulmonary Fibrosis Trust
- Pulmonary Fibrosis Federation
- Sarcoidosis UK
- Support for living with rheumatoid arthritis
- Taskforce for lung health
- Yn erbyn arthritis

Dilynwch ni