Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil ILD

Mae tîm amlddisgyblaethol ILD Caerdydd yn weithgar ym maes ymchwil, ac rydym yn annog ein cleifion i fod yn rhan o ymchwil arloesol. Efallai y byddwn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn treial clinigol. Mae treialon clinigol yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’ch gofal arferol ac ni fyddant yn effeithio ar unrhyw ofal a gewch gan ein tîm.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw dreialon clinigol, cysylltwch â’r Prif Nyrs Doria Barbonchielli, ein Rheolwr Treialon Clinigol ILD, ar 02921 826419. Fel arall, gallwch ofyn i unrhyw un o aelodau ein tîm am ragor o wybodaeth yn ystod eich adolygiad clinig.

Astudiaethau cyfredol (Mawrth 2024)

TIPAL - Effeithiolrwydd a risgiau trin pobl â Ffeibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint gan ychwanegu Lansoprazole - Ar gyfer cleifion â Ffeibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint (IPF)

Astudiaeth Stavinsky- ceisio sefydlu a all profi am wrthgyrff adnabod pwy sy’n parhau i fod yn wynebu’r risg fwyaf o haint COVID-19 difrifol ar ôl brechu - Yn agored i bob claf ag ILD / Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint

Dilynwch ni