Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Cyn sefydlu’r dudalen we hon, gwnaethom ofyn i’n cleifion yn y clinig pa wybodaeth yr hoffent wybod a pha gwestiynau yr hoffent atebion iddynt drwy ein gwefan. Crëwyd y dudalen hon yn seiliedig ar yr adborth a gawsom yn garedig gan y rhai a gwblhaodd yr holiadur hwn, ochr yn ochr ag adborth gan aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol.

Pryd i ffonio’r meddyg teulu v pryd i ffonio’r nyrs arbenigol?
Os ydych chi wedi sylwi bod eich symptomau’n gwaethygu’n sydyn, er enghraifft, symptomau o ddiffyg anadl neu beswch cynyddol dros 1-2 wythnos, byddem fel arfer yn eich cynghori i weld eich meddyg teulu yn y lle cyntaf. Bydd y meddyg teulu yn gallu rhoi gwybod i chi os oes angen triniaethau fel gwrthfiotigau neu os oes angen trafodaeth bellach gyda’r tîm ILD arbenigol. Os bydd eich symptomau’n gwaethygu’n raddol a’ch bod yn poeni neu’n ansicr, cysylltwch â’n nyrsys arbenigol i gael cyngor.

Os ydych chi’n sâl dros y penwythnos neu y tu allan i oriau ac yn teimlo bod angen i chi gael eich gweld ar frys - cysylltwch â GIG Cymru 111.

Os oes gennych bryderon am feddyginiaeth ILD benodol, er enghraifft meddyginiaeth gwrthffibrotydd neu atal imiwnedd, cysylltwch â’n nyrsys arbenigol. Er enghraifft, pryderon am sgil-effeithiau neu addasiadau i’r dos. Gallwch hefyd ddarllen am feddyginiaeth benodol yn adran driniaeth y wefan hon.

Nyrs Arbenigol ILD: 02921826419
Gadewch neges gyda’ch enw, dyddiad geni ac, os yn bosibl, rhif ysbyty a disgrifiad byr o’ch ymholiad. Bydd yr arbenigwr nyrsio yn eich ffonio’n ôl cyn gynted â phosibl. Nodwch nad yw’r rhif hwn yn cael ei fonitro ar benwythnosau nac ar wyliau banc.

A fydd angen triniaeth ocsigen arnaf?
Ni fydd angen therapi ocsigen ar bawb sydd ag ILD. Mae’n bosibl y bydd angen therapi ocsigen ar rai cleifion yn y dyfodol os bydd eu clefyd yn datblygu. Byddwn yn parhau i asesu hyn pan fyddwch yn cael eich gweld yn y clinig. Yn anffodus, nid yw ocsigen yn helpu gyda’r symptom o ddiffyg anadl yn benodol ac mae’n driniaeth a ddefnyddir pan fydd y lefelau ocsigen yn gyson isel yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am ddiffyg anadl, cliciwch yma neu gweler yr adran hunanreoli ILD ar ein gwefan. I gael rhagor o wybodaeth am pryd y gellir defnyddio ocsigen a sut mae’n cael ei ddefnyddio, cliciwch yma.

Pa mor gyflym fydd fy nghyflwr yn dirywio?
Mae prognosis yn amrywio yn dibynnu ar y cyflwr sy’n bodoli eisoes sy’n achosi ILD. Wrth fyw gydag ILD, mae llawer o ansicrwydd ynghylch y dyfodol, a all fod yn heriol iawn.

Gyda ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint, neu IPF, mae cyflymder dirywiad yn amrywio’n fawr o berson i berson. Gyda rhai pobl, mae creithiau’r ysgyfaint yn datblygu’n gyflym ac mewn eraill bydd yn datblygu dros gyfnod hirach o amser. Nid ydym yn gwybod eto pam fod hyn yn digwydd, felly mae’n anodd iawn rhagweld pa mor hir y bydd rhywun ag IPF yn goroesi ar adeg y diagnosis. Gall monitro rheolaidd dros amser ddangos a yw’n gwaethygu’n gyflym neu’n araf.


A oes unrhyw elusennau ffeibrosis yr ysgyfaint / ILD?
Oes, mae yna lawer o elusennau a grwpiau ILD. Mae cynrychiolwyr lleol o’r elusen yn dod i rai o’n cyfarfodydd grŵp cymorth lleol.
Action for pulmonary fibrosis
Asthma + Lung UK
Pulmonary Fibrosis Trust
Sarcoidosis UK

Ydw i’n gymwys i dderbyn unrhyw fudd-daliadau?
Os ydych chi’n byw gyda salwch hirdymor fel ffeibrosis yr ysgyfaint, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth gan y llywodraeth a sefydliadau eraill. Gall gwneud cais am fudd-daliadau fod yn ddryslyd iawn. Mae gan ‘Action for pulmonary fibrosis’ lawer o ganllawiau a chyngor am ddim sy’n manylu ar yr hyn y gallech fod â hawl iddo. Cliciwch yma i weld rhagor o wybodaeth gan ‘Action for pulmonary fibrosis’. Mae gan Asthma + Lung UK adran benodol o’u gwefan hefyd sy’n amlinellu pa fathau o gymorth ariannol neu fudd-daliadau y gallech eu hawlio os ydych chi’n byw gyda chyflwr ar yr ysgyfaint yn y DU. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth gan Asthma + Lung UK.

Weithiau gall ffurflenni hawlio fod yn ddryslyd iawn i’w llenwi.
Mae’n bosibl fod gan y sefydliadau canlynol gynghorwyr arbenigol a all helpu:

• Canolfan Cyngor ar Bopeth

• Age UK

• Gallwch hefyd ofyn i’ch meddyg teulu neu nyrs arbenigol am gyngor.

Cymorth ariannol arall -

Teithio

• Gallwch gael tocyn bws i deithio am ddim os ydych yn anabl – cysylltwch â’ch cyngor lleol am fanylion.

• Mae’n bosibl y gallwch gael bathodyn glas i barcio ar y stryd

• Mae Cerdyn Rheilffordd i Bobl Anabl yn lleihau costau teithio ar y trên

• Mae’r Cynllun Motability yn ffordd fforddiadwy, ddi-straen i bobl ag anableddau i brydlesu car, sgwter neu gadair olwyn wedi’i phweru yn gyfnewid am eu lwfans symudedd.

Ynni

• Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael taliadau tanwydd gaeaf neu daliadau tywydd oer.‍

• Efallai y bydd eich cyflenwr ynni yn cynnig gostyngiadau i bobl anabl. Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni neu’r llinell gymorth Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar 0800 731 0214


Sut ydw i’n trefnu yswiriant teithio?
Yswiriant teithio gyda chyflwr ar yr ysgyfaint | Asthma + Lung UK (asthmaandlung.org.uk)
Mynd ar wyliau gyda ffeibrosis yr ysgyfaint | Action for Pulmonary Fibrosis (actionpf.org)
Gwybodaeth ac adnoddau ar reoliadau cyfredol llongau mordeithio sydd ar waith ar gyfer y rhai ar ocsigen – Action for Pulmonary Fibrosis (actionpf.org)

A oes gen i hawl i iawndal ar gyfer clefyd yr ysgyfaint sy’n gysylltiedig ag asbestos?
Budd-daliadau ac iawndal ar gyfer clefyd sy’n gysylltiedig ag asbestos | Asthma + Lung UK (asthmaandlung.org.uk)
AASC Cymru 

Dilynwch ni