Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant Corfforol

Mae gofalu am eich iechyd corfforol nid yn unig yn gwella eich lefelau ffitrwydd ond hefyd yn eich helpu i berfformio'n dda yn y gwaith, yn feddyliol ac yn gorfforol. Ymhlith y buddion mae:
  • Gwella'ch system imiwnedd
  • Lleihau eich risg o gyflyrau meddygol fel diabetes, clefyd y galon neu bwysedd gwaed uchel
  • Rheoli eich pwysau
  • Helpu gyda chwsg
  • Lleihau effeithiau corfforol a meddyliol straen
Gall dim ond 30 munud y dydd o weithgaredd sy'n eich gwneud yn gynnes ac anadlu ar gyfradd ychydig yn gyflymach na'r arfer leihau eich risg o glefyd y galon, diabetes math 2 a strôc. Mae gweithgaredd corfforol yn fwy nag ymarfer corff ffurfiol yn unig - gall gynnwys tasgau cartref e.e. glanhau'r car neu'r ffenestri, hwfro, cerdded y ci, dringo grisiau, garddio a dawnsio, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud ar gyfradd debyg i gerdded yn sionc trwy gynyddu curiad eich calon a'ch cyfradd anadlu am isafswm o 10 munud.
 

Clybiau a Gweithgareddau Lleol

Adnoddau Eraill sydd ar Gael

  • Gwasanaeth Ffisiotherapi Galwedigaethol
  • Newid am Oes- gyda llawer o wybodaeth ar sut i ymgorffori ymarfer corff yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau yn eich ardal chi.
  • Byw'n Dda GIG - yn darparu gwybodaeth am fuddion ymarfer corff a llawer o syniadau ymarfer corff y gellir eu perfformio gartref. 
Dilynwch ni