Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol

Croeso i dudalennau rhyngrwyd Iechyd Galwedigaethol. Rydym yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i'r holl staff ac yn darparu cyngor iechyd galwedigaethol arbenigol i'r rheolwyr.

Pwy ydym ni:

Darganfyddwch fwy am pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni

Mynychu neu Ganslo: Gofynnwn yn garedig os nad ydych yn gallu mynychu apwyntiad eich bod yn cysylltu ag Iechyd Galwedigaethol mor gynnar â phosibl i roi gwybod i ni. Mae hyn yn ein galluogi i gynnig yr apwyntiad i gleient arall. Mae pob apwyntiad a gollir yn costio £160.00 ac mae methu â chanslo apwyntiadau yn arwain at amseroedd aros hirach i eraill. Diolch.

 

Rydym yn ymwneud â'r canlynol:
  • Yr effeithiau y gall gwaith eu cael ar eich iechyd

  • Yr effeithiau y gallai eich iechyd eu cael ar eich gallu i weithio

Ein nod yw:
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch

  • Optimeiddio lefelau uchel o ffitrwydd

  • Hyrwyddo byw'n iach

  • Amddiffyn gweithwyr rhag risgiau sy'n codi yn eu gweithle

Pa wasanaethau a ddarperir gennym?
 

 

Atgyfeiriadau

O fis Medi 2023, rydym wedi newid i system Iechyd Galwedigaethol newydd. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i Reolwyr sy’n dymuno cyfeirio staff at Iechyd Galwedigaethol wneud hynny drwy Opas G2. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gyfrif a sut i greu Atgyfeiriad Rheoli, gweler ein tudalen SharePoint.

Gall aelodau staff sy'n cael anhawster yn y gweithle oherwydd mater yn ymwneud ag iechyd hunanatgyfeirio yn ysgrifenedig neu dros y ffôn, darllenwch hefyd Ganllaw IG ar gyfer Gweithwyr.

Dilynwch ni