Neidio i'r prif gynnwy

Camddefnyddio Alcohol, Cyffuriau a Sylweddau

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ein nod yw hyrwyddo agwedd onest, gadarnhaol a gofalgar tuag at broblemau posibl a gwirioneddol camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau yn ein gweithlu. Ar yr un pryd rydym am sicrhau bod cleifion, eu perthnasau a'u ffrindiau yn derbyn gofal a gwasanaeth o safon uchel.

Datblygwyd y Polisi Camddefnyddio Alcohol, Cyffuriau a Sylweddau gyda'r nodau hyn mewn golwg. Mae'n cynnwys canllawiau a gweithdrefn i reolwyr eu dilyn. Ychwanegwyd siart llif yn ddiweddar sy'n rhoi proses glir i reolwyr ei dilyn pan amheuir bod achosion o gamddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Adnoddau sydd ar gael

  • Gall yr holl staff a gyflogir gan BIP Caerdydd a Fro hunan-gyfeirio at Iechyd Galwedigaethol os ydynt yn dioddef o broblemau cysylltiedig ag alcohol/caethiwed i alcohol
  • Mae gan Newid am Oes amrywiaeth o awgrymiadau ac adnoddau gan gynnwys gwybodaeth am y peryglon cudd sy'n gysylltiedig ag alcohol, dewisiadau amgen i yfed a'r unedau dyddiol a argymhellir 
  • Mae Talk to Frank yn wasanaeth 24/7 sy'n rhoi gwybodaeth i bobl sydd angen cymorth brys, pobl sy'n poeni am ffrind neu aelod o'r teulu ac yn rhoi cyngor ar wasanaethau cymorth lleol yn eich ardal chi  
  • Dan 24/7 yw Llinell Gymorth Ffôn Am Ddim Cyffuriau ac Alcohol Cymru sy'n cynnig cefnogaeth gan gynnwys asesiad cychwynnol, atgyfeiriad at wasanaethau lleol, gwybodaeth am gyffuriau ac alcohol a'u heffeithiau a llawer mwy
  • Hyfforddiant Ymyrraeth Alcohol i Reolwyr sy'n cael ei redeg gan iechyd galwedigaethol
  • Mae BIP Caerdydd a'r Fro yn cynnig ystod o wasanaethau'r GIG sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl sy'n profi problemau gyda dibyniaeth ar alcohol a neu gyffuriau.

 

Dilynwch ni