Neidio i'r prif gynnwy

Tybaco

Sigarét wedi ei thanio gyda mwg

 

Ysmygu yw prif achos clefydau y gellir eu hatal a marwolaethau cynnar yng Nghymru o hyd.

Er bod y cyfraddau wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, mae 14% o oedolion Caerdydd a'r Fro yn dal i ysmygu.

Mae ysmygu'n effeithio ar iechyd a disgwyliad oes pobl, yn rhoi pwysau ar y GIG, yn cyfrannu at bryderon cymdeithasol ac amgylcheddol, yn cynyddu anghydraddoldebau iechyd ac yn effeithio'n anghymesur ar y rhai sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.

Nod 'Cymru Ddi-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco’Llywodraeth Cymru yw gwneud Cymru'n ddi-fwg erbyn 2030.   Mae hyn yn golygu sicrhau mynychder ysmygu o lai na 5%.

Mae Rheoli Tybaco yn flaenoriaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a adlewyrchir yn 'Llywio Iechyd ein Poblogaeth i'r Dyfodol'.

Nod Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Caerdydd a'r Fro yw lleihau'r nifer sy'n ysmygu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a nifer yr achosion ohono, a gweithio tuag at fod yn ddi-fwg erbyn 2030.

Teitl ein cynllun diweddaraf yw 'Lleihau Niwed Smygu i Blant a Phobl Ifanc: Cynllun Gweithredu ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg 2022-2024' a gellir ei ddarllen yma. Mae diweddariad blynyddol yma hefyd. 

Mae ein gwaith Rheoli Tybaco wedi'i rannu'n dri maes allweddol:

 

Rhoi'r gorau iddi

Ni waeth pa mor hir y mae rhywun wedi ysmygu, nid yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi.  Mae ysmygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi gyda chymorth na rhoi'r gorau iddi ar eu pennau eu hunain. Y newyddion da yw ei bod yn mae'n haws nag erioed dod o hyd i'r gefnogaeth.

Helpa Fi i Stopio

Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn gyda chymorth arbenigol, rhad ac am ddim y GIG gan Helpa Fi i Stopio. Mae ein cynghorwyr rhoi'r gorau i ysmygu yn cynnig cymorth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn y gymuned.

Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig:

  • Cymorth cyfrinachol a heb feirniadaeth am ddim gan arbenigwr rhoi'r gorau i ysmygu cyfeillgar
  • Cymorth ymddygiadol i'ch helpu i adnabod sbardunau a rheoli blysiau.
  • Sesiynau wythnosol wedi'u teilwra i ddiwallu eich anghenion.
  • Mynediad at feddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu am ddim
  • Monitro cynnydd wythnosol.

I gael gwybod mwy am Helpa Fi i Stopio, y dewisiadau sydd ar gael i'ch helpu i fod yn ddi-fwg, straeon llwyddiant a chwestiynau cyffredin ewch i Helpa Fi i Stopio, neu ffoniwch 0800 085 2219 neu anfonwch neges destun HMQ at 80818 i gael mynediad at gymorth i roi'r gorau iddi. 

Mae Tîm Helpa Fi i Stopio hefyd yn cynnig grwpiau rhoi'r gorau i ysmygu yn y gweithle.  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Deb.Sugrue@wales.nhs.uk

 

Rhoi’r gorau iddi er lles dau, Ti a Fi. Gweithiwr Cymorth Mamolaeth pwrpasol – rhoi'r gorau i ysmygu

Os ydych chi'n feichiog ac yn ysmygwr, y peth pwysicaf y gallwch ei wneud i wella'ch iechyd ac i ddiogelu eich babi yw rhoi'r gorau i ysmygu. Os byddwch yn rhoi'r gorau iddi:

 

  • Rydych yn fwy tebygol o gael beichiogrwydd iachach a babi iachach
  • Byddwch yn lleihau'r risg o farw-enedigaeth.
  • Mae eich babi yn llai tebygol o gael ei eni'n gynamserol.
  • Mae eich babi yn llai tebygol o gael ei eni gyda phwysau geni isel.
  • Byddwch yn lleihau'r risg o syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS), a elwir hefyd yn “farwolaeth crud”.

 

Gellir cyfeirio pob ysmygwr beichiog yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg at Weithiwr Cymorth Mamolaeth pwrpasol ar gyfer:

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Jodie.Foran@wales.nhs.uk

 

Gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu yn yr ysbyty

Mae'r gwasanaeth ysbyty yn cefnogi cleifion allanol, cleifion mewnol a'u partneriaid, rhieni cleifion pediatrig a staff i roi'r gorau i ysmygu. Mae'r gwasanaeth hwn yn yr ysbyty yn cynnig cymorth ymddygiadol dwys tymor hir un i un.

I gael gwybod mwy neu i wneud apwyntiad, cysylltwch â:

 

Atal

Gwasanaeth addysg ac atal tybaco i blant a phobl ifanc

Mae aros yn ddi-fwg yn un o'r pethau gorau y gallwn ei wneud ar gyfer ein hiechyd, ac mae'n diogelu pobl eraill a'r blaned hefyd. Mae ein gwasanaeth addysg ac atal ysmygu a thybaco yn helpu plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael yr wybodaeth, y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth am eu hymddygiad ysmygu. Rydym yn gwneud hyn trwy’r canlynol:

  • Cefnogi datblygiad dulliau ysgol gyfan/lleoliad cyfan o aros yn ddi-fwg.
  • Cyflwyno addysg ysmygu a thybaco yn uniongyrchol i ddosbarthiadau neu grwpiau llai mewn ysgolion targed. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ysmygu, e-sigaréts, pwysau gan gyfoedion a ble i fynd am gymorth.
  • Cyfeirio at adnoddau presennol, neu ddatblygu ein haddysgwyr ein hunain a chefnogi addysgwyr i’w defnyddio.
  • Cydlynu'r cynllun Gatiau Di-fwg ar gyfer Ysgolion Cynradd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a chynllun tebyg ar gyfer meithrinfeydd lleol.
  • Hyrwyddo negeseuon di-fwg a Helpa Fi i Stopio.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu, gweithredu a monitro cynllun gweithredu lleol sydd â'r nod o leihau niwed ysmygu i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Dewch yn ôl yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hadnoddau a'n Cynllun Gweithredu.

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â Bethan.Jones62@wales.nhs.uk.

 

Yr amgylchedd

Mae Amgylchedd Di-fwg yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.  Mae Deddfwriaeth Ddi-fwg Cymru Gyfan yn ei gwneud yn anghyfreithlon ysmygu ar dir ysbytai, meysydd chwarae, tir ysgolion ac mewn llety gwyliau.

Ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae 'Swyddog Gorfodi Dim Ysmygu' yn patrolio tir yr ysbytai, gan fynd at ysmygwyr i roi gwybod iddynt am y gyfraith.

Mae perygl derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 os ydych yn ysmygu ar dir ysbytai . Gall cleifion mewnol gael mynediad at Therapi Disodli Nicotin i'w gwneud yn gyffyrddus yn ystod eu harhosiad. Os ydynt yn cael eu cymell i roi'r gorau iddi, gallant gael eu cefnogi gan y tîm rhoi'r gorau i ysmygu mewnol, neu gan Helpa Fi i Stopio yn y gymuned.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar Reoli Tybaco, cysylltwch â:

Trina Nealon, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd: Trina.Nealon@wales.nhs.uk

Laura Wilson, Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd:  Laura.Wilson3@wales.nhs.uk

 

Dilynwch ni