Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Gwella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi’r uchelgais, y caniatâd a’r rhwymedigaeth gyfreithiol i ni wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.”

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.

Mae’r Ddeddf hon yn unigryw i Gymru, mae’n denu diddordeb gan lawer o wledydd ar draws y byd oherwydd ei bod yn cynnig cyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirdymor i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, y mae’r Ddeddf yn effeithio arnynt, ac mae pob un ohonynt yn cael eu harchwilio ar y camau y maent yn eu cymryd tuag at gyflawni’r hyn y mae’n ei fandadu.

Fel Bwrdd Iechyd, cawn ein harwain gan ein strategaeth ddeng mlynedd, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys deg amcan strategol sy’n sail i’r gwaith yr ydym yn ei wneud i roi’r Ddeddf ar waith gan eu bod yn cyd-fynd yn agos â’i saith nod a’i ffyrdd o weithio. Maent fel a ganlyn:

· Cymru Lewyrchus

· Cymru Gydnerth

· Cymru Iachach

· Cymru sy'n Fwy Cyfartal

· Cymru o Gymunedau Cydlynus

· Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu

· Cymru sy'n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang

Dilynwch ni