Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n Iach a Bwyd Cynaliadwy

 

Gall bwyta deiet iach a chytbwys helpu i atal salwch sy'n gysylltiedig â deiet a bydd yn rhoi'r egni a'r maetholion sydd eu hangen arnoch i gadw'n egnïol a chynnal pwysau iach.

Mae bwyta'n iach yn helpu i leihau'r risg o gyflyrau penodol gan gynnwys clefyd y galon, strôc, rhai mathau o ganser, diabetes ac osteoporosis. Yn y pen draw, mae bwyta'n iach yn eich helpu i deimlo'n wych, cael mwy o egni ac yn sefydlogi'ch hwyliau.

Pwysau Iach Cymru Iach yw'r strategaeth 10 mlynedd genedlaethol i leihau ac atal gordewdra yng Nghymru. Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Caerdydd a'r Fro yn cyflawni hyn drwy ei gynllun gweithredu strategol Symud Mwy, Bwyta'n Iach yn ogystal â thrwy amrywiaeth o gamau gweithredu sy'n canolbwyntio ar annog dewisiadau bwyd iach.

Darllenwch am gynllun gweithredu Symud Mwy, Bwyta'n Iach yma.

Drwy gydol ein bywydau, mae pethau allweddol y gallwn ni i gyd eu gwneud i'n helpu i heneiddio'n iach a chynnal yr iechyd gorau posibl, megis bwyta deiet iach a chytbwys.

 

Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro yn gweithio ar fentrau i helpu pobl Caerdydd a Bro Morgannwg i wella eu dewisiadau bwyd, yn ogystal â sicrhau bod ganddynt fynediad at fwyd iachach, gan gynnwys:

  • Datblygu partneriaethau bwyd cynaliadwy sy'n cefnogi prosiectau bwyd lleol i dyfu a darparu gwell mynediad at fwyd i'r rhai sydd ar incwm isel.
  • Gweithio gyda'r llywodraeth leol a chenedlaethol i sicrhau bod mynediad at fwyd iach yn flaenoriaeth i bawb.
  • Gweithio mewn partneriaeth â thîm Deieteg Caerdydd a Bro Morgannwg i annog mynediad at addysg yn ymwneud â maeth.
  • Gweithio gydag ysgolion a lleoliadau cyn-ysgol i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau bwyta'n iach.

Fel rhan o gynllun partneriaeth Symud Mwy, Bwyta'n Iach, rydym hefyd yn:

  • Hyrwyddo cynlluniau sy'n cefnogi teuluoedd ar incwm isel i fforddio prynu bwyd iachach.
  • Gweithio gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus i gyflwyno safonau bwyd iach, fel y gallwch wneud dewisiadau iach yn haws pan fyddwch yn eich gweithle neu’n cymdeithasu.

 

Mentrau prosiect cyfredol

 

Synnwyr Bwyd Cymru

Nod Synnwyr Bwyd Cymru yw dylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a ffyniannus.

Sefydlwyd Synnwyr Bwyd Cymru yn 2018 i hybu ymagwedd draws-sector tuag at y system fwyd yng Nghymru ac mae'n gronfa o fewn Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, a gynhelir gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a’r Llywodraeth ledled Cymru i greu system fwyd a ffermio sy'n dda i bobl ac yn dda i'r blaned.  Er mwyn cyflawni hyn, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn credu y dylai'r amgylchedd; iechyd a llesiant; cyfiawnder cymdeithasol a'r economi gael eu hintegreiddio i bob meddylfryd polisi yng Nghymru.

Gellir cyflawni'r ymagwedd 'bwyd ym mhob polisï' hon trwy ymchwil, cydweithio traws-sector a thrwy ysgogi Mudiad Bwyd Da Cymru, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion bwyd ac annog cyfranogiad eang mewn gweithgarwch sy'n gysylltiedig â bwyd. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn helpu i ddatblygu'r Mudiad Bwyd Da hwn trwy ddarparu nifer o raglenni sy'n gysylltiedig â bwyd ledled Cymru – a llawer ohonynt yn rhan o bartneriaethau'r DU.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma

 

Bwyd Caerdydd

Mae Bwyd Caerdydd yn bartneriaeth o unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r ddinas.  Mae'n ganolbwynt ar gyfer cysylltu'r bobl a'r prosiectau sy'n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, sy’n amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ar draws y ddinas. Mae’n gweithredu fel llais dros newid ehangach. Yn 2021, enillodd Caerdydd statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, y lle cyntaf yng Nghymru ac yn un o ddim ond chwe lle yn y DU i ennill yr anrhydedd nodedig. Mae Bwyd Caerdydd wedi datblygu 5 nod bwyd: Caerdydd iach, Caerdydd sy'n amgylcheddol gynaliadwy, mudiad bwyd sy'n grymuso, economi fwyd leol lewyrchus, system fwyd deg a chysylltiedig.

Gall pawb yng Nghaerdydd ymuno â'r mudiad drwy 'Addunedu' a gweithredu i helpu Caerdydd i ennill statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Saesneg yn unig) erbyn y flwyddyn 2024.

 

Bwyd y Fro

Mae Bwyd y Fro yn bartneriaeth fwyd gynaliadwy sy'n anelu at wella fforddiadwyedd, argaeledd a mynediad at fwyd da ledled Bro Morgannwg trwy annog trigolion lleol i fwyta'n iach. Rydym yn bartneriaeth ac mae aelodau o amrywiaeth o sefydliadau lleol a busnesau bwyd, yn cydweithio i gysylltu ac ysbrydoli ein cymunedau, gan ddefnyddio bwyd i ddod â phobl ynghyd a newid bywydau.

Mae gennym dri nod allweddol – darparu pryd da i bawb bob dydd, cefnogi busnesau bwyd lleol i ffynnu, a chysylltu cyfleoedd bwyd lleol a byd-eang.

Rydym wedi cynhyrchu cynllun gweithredu sy'n amlinellu gweithgareddau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod 

Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys:

  • Prosiect Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr.
  • Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.
  • Prosiect Caffael Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro

 

Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Bwytai a Siopau Adwerthu Ysbytai

Mae bod yn bwysau iach yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol bellach o leihau'r risg o gyflyrau iechyd tymor hir fel diabetes, clefyd y galon a chanserau.

Fodd bynnag, yn ein hamgylchedd presennol mae'n anodd cyflawni hyn gan fod y bwyd o'n cwmpas yn aml yn blaenoriaethu cyfleustra dros iechyd, a gall fod yn uchel mewn braster, siwgr a halen. O ganlyniad, rydym yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau, pysgod olewog a ffibr deietegol, y bwydydd sy'n ein helpu i fod yn iach.

Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd y Prifysgol i nodi dewisiadau iachach sy'n fwy hygyrch a chynaliadwy, gan ddarparu amgylchedd iach i staff, cleifion ac ymwelwyr. Rydym yn gweithredu set o safonau sy'n cael eu monitro'n ofalus i sicrhau ein bod yn gwneud y Dewis Iach yn Ddewis Hawdd (dolen fideo isod).

 

Cyngor

I gael cyngor ar sut i fwyta'n iach, p'un ai i gynnal iechyd da neu reoli cyflwr, ewch i adnodd digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu chi a'ch teulu i fyw'n iach.

Ewch i wefan Cadw Fi’n Iach yma.

Mae ein deietegwyr wedi cynhyrchu Fideo Canllaw Bwyta'n Dda ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gyngor cyffredinol ar sut i fwyta deiet cytbwys iach.

Gwyliwch y fideo Bwyta'n Iach - Cadw Fi'n Iach yma.

Os hoffech syniadau am brydau iachach y gallwch eu gwneud gartref, mae rhai awgrymiadau ryseitiau iach blasus isod.

Cyrchwch syniadau am ryseitiau iachach yma.

Os ydych yn gwella ar ôl salwch, mae rhagor o wybodaeth Bwyta i Wella - Cadw Fi'n Iach ar gael yma.

 

Gyda dros 60% o bobl Caerdydd a'r Fro dros bwysau iach, mae'n bwysig bod cymorth yn cael ei ddarparu i helpu pobl i fwyta'n iach a rheoli pwysau iachach, gan osgoi afiechyd. Yn ogystal â'n prosiectau, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau i fynd i'r afael â hyn.

Os hoffech wybod mwy am y gwasanaethau sy’n cefnogi pobl i ddod yn bwysau iachach, gallwch ymweld â gwefan Rheoli Eich Pwysau - Cadw Fi’n Iach yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am faeth a sut i gynnal deiet iach a chytbwys, mae amrywiaeth o gyrsiau yn cael eu darparu gan y timau deieteg lleol i gefnogi pobl i wella’u hiechyd trwy fwyta'n iach.

Cyrsiau Cyhoeddus Sgiliau Maeth am Oes – Sgiliau Maeth am Oes® (yn cynnwys Bwyd Doeth)

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y camau rydym yn eu cymryd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i annog pawb i Symud Mwy, Bwyta'n Iach.

 

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm sy'n gweithio ar fwyta'n iach a bwyd cynaliadwy gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:

Rhianon Urquhart, Arweinydd Bwyta'n Iach: Rhianon.Urquhart@wales.nhs.uk

Louise Denham, Bwyd y Fro: Louise.Denham@wales.nhs.uk

Pearl Costello, Bwyd Caerdydd: Pearl.Costello@wales.nhs.uk

Helen Griffith, Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Bwytai a Siopau Adwerthu Ysbytai: Helen.Griffith5@wales.nhs.uk

Chloe Barrell, Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Bwytai a Siopau Adwerthu Ysbytai: Chloe.Barrell@wales.nhs.uk

Synnwyr Bwyd Cymru: foodsensewales@wales.nhs.uk

 

 

Dilynwch ni