Os yw aelod o staff yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch neu'n methu â chyflawni ei ddyletswyddau arferol oherwydd afiechyd, efallai y gallant ymgymryd â rôl amgen dros dro yn y sefydliad. Y nod o ddynodi rôl amgen dros dro i aelod o staff yw hwyluso eu dychweliad i'r gwaith ac osgoi cyfnod hir o absenoldeb. Gallai hefyd gynorthwyo'r rhai sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol i ddychwelyd i'w swydd fel rhan o addasiad rhesymol. Mae'r Adran Adnoddau Dynol yn cadw cofnod o'r rolau dros dro sydd ar gael yn y sefydliad.
O ran absenoldeb salwch, mae tystiolaeth o astudiaethau clinigol yn awgrymu bod staff, ar ôl pedair wythnos, yn dal i ymgysylltu'n ddigonol â'u gweithle i fod eisiau dychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag, ar ôl dau neu dri mis, maent wedi dechrau'r broses o ymddieithrio meddyliol, sy'n ei gwneud yn anoddach sicrhau dychweliad llwyddiannus. Trwy alluogi unigolion yn ôl i'r gweithle ynghynt, gallant weithio'n raddol tuag at y ffitrwydd gorau posibl cyn ymgymryd â'u dyletswyddau cytundebol llawn, a thrwy hynny wella morâl a lleihau'r tebygolrwydd o deimladau o unigedd a straen personol.
Ymhlith yr amgylchiadau pan allai fod yn briodol ystyried adleoli dros dro, mae'r canlynol:
Sut mae rôl dros dro yn cael ei nodi?
Ceisir swyddi amgen addas ar gyfer adleoli dros dro yn yr un gyfarwyddiaeth i ddechrau, yna o fewn yr un Bwrdd Clinigol, cyn edrych ar draws y BIP. Disgwylir y bydd y gweithiwr a'i reolwr yn rhagweithiol wrth geisio cyfleoedd addas, gyda chymorth yr Adran Adnoddau Dynol.
Lle bo hynny'n briodol, bydd y rheolwr yn cynnal/trefnu i asesiad risg yn y gweithle gael ei gynnal cyn i'r unigolyn ddechrau yn y rôl dros dro y cytunwyd arni, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau i'r unigolyn yn ysgrifenedig gan y rheolwr.
Bydd cynnydd yr unigolyn yn cael ei adolygu gan ei Reolwr Llinell ar gyfnodau cytunedig. Gellir gofyn am gyngor gan Adnoddau Dynol a/ neu Iechyd Galwedigaethol, fel sy'n briodol. Lle na ellir dod o hyd i rôl dros dro briodol, bydd yr unigolyn yn aros ar absenoldeb salwch a delir â'r mater yn unol â Pholisi Absenoldeb Salwch GIG Cymru
Oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn bodoli, ni fydd rôl dros dro fel arfer yn para mwy na thri mis. Os nad yw ffitrwydd y gweithiwr yn caniatáu iddynt ddychwelyd i ddyletswyddau cytundebol o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, dylid parhau i ddelio â'r mater yn unol â Pholisi Absenoldeb Salwch GIG Cymru. Anogir rheolwyr i gysylltu â'r Adran Adnoddau Dynol ar ffôn: 02921 836287 [est 36287] neu i anfon e-bost i drafod unrhyw rolau amgen posibl dros dro a allai fod yn addas ar gyfer aelod o staff.