Mae gofalu am eich iechyd corfforol nid yn unig yn gwella eich lefelau ffitrwydd ond hefyd yn eich helpu i berfformio'n dda yn y gwaith, yn feddyliol ac yn gorfforol. Ymhlith y buddion mae:
- Gwella'ch system imiwnedd
- Lleihau eich risg o gyflyrau meddygol fel diabetes, clefyd y galon neu bwysedd gwaed uchel
- Rheoli eich pwysau
- Helpu gyda chwsg
- Lleihau effeithiau corfforol a meddyliol straen
Gall dim ond 30 munud y dydd o weithgaredd sy'n eich gwneud yn gynnes ac anadlu ar gyfradd ychydig yn gyflymach na'r arfer leihau eich risg o glefyd y galon, diabetes math 2 a strôc. Mae gweithgaredd corfforol yn fwy nag ymarfer corff ffurfiol yn unig - gall gynnwys tasgau cartref e.e. glanhau'r car neu'r ffenestri, hwfro, cerdded y ci, dringo grisiau, garddio a dawnsio, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud ar gyfradd debyg i gerdded yn sionc trwy gynyddu curiad eich calon a'ch cyfradd anadlu am isafswm o 10 munud.
Clybiau a Gweithgareddau Lleol
Adnoddau Eraill sydd ar Gael
- Gwasanaeth Ffisiotherapi Galwedigaethol
- Newid am Oes- gyda llawer o wybodaeth ar sut i ymgorffori ymarfer corff yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau yn eich ardal chi.
- Byw'n Dda GIG - yn darparu gwybodaeth am fuddion ymarfer corff a llawer o syniadau ymarfer corff y gellir eu perfformio gartref.