Mae gofalu am eich iechyd corfforol nid yn unig yn gwella eich lefelau ffitrwydd ond hefyd yn eich helpu i berfformio'n dda yn y gwaith, yn feddyliol ac yn gorfforol. Ymhlith y buddion mae:
Gwella'ch system imiwnedd
Lleihau eich risg o gyflyrau meddygol fel diabetes, clefyd y galon neu bwysedd gwaed uchel
Rheoli eich pwysau
Helpu gyda chwsg
Lleihau effeithiau corfforol a meddyliol straen
Gall dim ond 30 munud y dydd o weithgaredd sy'n eich gwneud yn gynnes ac anadlu ar gyfradd ychydig yn gyflymach na'r arfer leihau eich risg o glefyd y galon, diabetes math 2 a strôc. Mae gweithgaredd corfforol yn fwy nag ymarfer corff ffurfiol yn unig - gall gynnwys tasgau cartref e.e. glanhau'r car neu'r ffenestri, hwfro, cerdded y ci, dringo grisiau, garddio a dawnsio, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud ar gyfradd debyg i gerdded yn sionc trwy gynyddu curiad eich calon a'ch cyfradd anadlu am isafswm o 10 munud.
Clybiau a Gweithgareddau Lleol
Mae Rhedeg yn y Parc Caerdydd yn rediad 5km, a chynhelir hwn bob dydd Sadwrn trwy gydol y flwyddyn am 9am; mae'n rhad ac am ddim. Mae dolenni hefyd i wybodaeth am Rediadau Parciau eraill gerllaw gan gynnwys Ynys y Barri, Casnewydd, Pontypridd ac ati.
Newid am Oes- gyda llawer o wybodaeth ar sut i ymgorffori ymarfer corff yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau yn eich ardal chi.
Byw'n Dda GIG - yn darparu gwybodaeth am fuddion ymarfer corff a llawer o syniadau ymarfer corff y gellir eu perfformio gartref.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.