Neidio i'r prif gynnwy

Ymuno a ni

Ydych chi’n gymwys i ymuno? 

Mae gan holl weithwyr BIPCAF, yn ogystal â’r holl feddygon teulu a staff practis yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, hawl i ymuno â’r llyfrgell. Darperir y gwasanaeth llyfrgell gan Brifysgol Caerdydd, felly pan fyddwch yn cofrestru byddwch hefyd yn gallu defnyddio holl safleoedd Llyfrgell Prifysgol Caerdydd. 

Sut i ymuno 

Rydym yn darparu tair ffordd o gofrestru. 

Cofrestru wyneb yn wyneb: 

Gallwch ymuno yn y Llyfrgell Iechyd, Adeilad Cochrane, Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn Llyfrgell Archie Cochrane, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Bydd angen eich cerdyn adnabod BIPCAF arnoch i gofrestru.

Cofrestru drwy e-bost: 

Anfonwch e-bost at cochraneliby@cardiff.ac.uk i ofyn am ffurflen gofrestru. 

Cofrestru ar-lein: 

Llenwch y ffurflen ar-lein drwy wefan Gwasanaeth Llyfrgell GIG Cymru i gofrestru ar-lein

Hawliau aelodaeth 

Ymunwch i gael mynediad at: 
  • gwasanaeth gwneud cais - gofyn am lyfrau ac erthyglau nad ydynt ar gael yn lleol; 

  • cyfleusterau llungopïo, argraffu a sganio; 

  • LibrarySearch - dod o hyd i eitemau ym mhob un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd; 

  • benthyg hyd at 35 o eitemau o unrhyw lyfrgell ym Mhrifysgol Caerdydd. 

I gael help gyda chronfeydd data, chwilio am lenyddiaeth, adolygiadau llenyddiaeth systematig a hawlfraint cysylltwch â cochraneliby@cardiff.ac.uk. Gofynnwch i ni am help gydag e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru a sut i gael mynediad at destun llawn. Gellir trefnu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth yn unigol ac mewn grwpiau. 

Mynediad y tu allan i oriau 

Mae’r Llyfrgell Iechyd a Llyfrgell Archie Cochrane ill dau yn darparu mynediad 24 awr, a bydd angen eich cerdyn llyfrgell arnoch sy’n cynnwys eich llun. Mae hyn yn gweithredu fel cerdyn sweipio i mewn i’r adeiladau. I gael manylion am ddrysau mynediad ac amseriadau, neu i ofyn i’ch cerdyn gael ei actifadu, cysylltwch â cochraneliby@cardiff.ac.uk

Canllaw rhagarweiniol 

Mae ein canllaw rhagarweiniol yn esbonio sut i ymuno â’r llyfrgell ac yn crynhoi’r gwasanaethau sydd ar gael i chi. Gallwch gael mynediad at y canllawiau yma

Dilynwch ni