Neidio i'r prif gynnwy

Dod o hyd i wybodaeth

Mae ystod eang o adnoddau clinigol ac anghlinigol ar gael mewn print ac yn electronig drwy: 

LibrarySearch GIG Cymru 

Catalog ar-lein yw LibrarySearch GIG Cymru ar gyfer llyfrgelloedd GIG Cymru (gan gynnwys Llyfrgelloedd Iechyd Prifysgol Caerdydd) ac e-Lyfrgell GIG Cymru. I ddefnyddio’r adnoddau hyn yn effeithiol, bydd angen i chi fod yn aelod cofrestredig o’r llyfrgell.  

Mae’n rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at rai adnoddau. Os oes gennych chi gyfeiriad e-bost GIG Cymru a chyfrif rhwydwaith (Nadex), defnyddiwch nhw pan ofynnir i chi i “ddewis sut i fewngofnodi”. 

Os nad oes gennych e-bost a manylion mewngofnodi GIG Cymru, e-bostiwch cochraneliby@cardiff.ac.uk

Ar ôl mewngofnodi, ni ddylai fod angen i chi fewngofnodi eto yn ystod eich sesiwn. 

Os na allwch ddod o hyd i’r llyfr neu’r cyfnodolyn rydych yn chwilio amdano, neu os ydynt yn cael eu cadw y tu allan i Gaerdydd, llenwch y ffurflen gais rhyng-lyfrgell ar LibrarySearch GIG Cymru (ar frig y ddewislen) neu e-bostiwch cochraneliby@cardiff.ac.uk gyda’r manylion. 

E-adnoddau ar gyfer staff BIPCAF 

UpToDate 

Mae UpToDate yn adnodd cymorth penderfyniadau clinigol sy’n darparu atebion i gwestiynau clinigol ar dros 10,000 o bynciau mewn dros 25 o arbenigeddau meddygol. Mae adolygiadau testun UpToDate yn ymdrin â phob prif agwedd ar gyflwr penodol, gan gynnwys symptomau, profion, diagnosis ac opsiynau o ran triniaeth. Mae deunyddiau gwybodaeth i gleifion ar gael hefyd. Mae ar gael yn Search - UpToDate a hefyd trwy ap UpToDate. 

 
Adnoddau iechyd a lles staff 

Mae gennym amrywiaeth o lyfrau hunangymorth a lles yn ein llyfrgelloedd, gan gynnwys teitlau o’r cynllun Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn. 

 

E-Lyfrgell GIG Cymru: e-adnoddau ar gyfer holl staff GIG Cymru 

Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae ar gael i holl staff GIG Cymru. 

Mae gan yr e-Lyfrgell gasgliad eang o gronfeydd data, crynodebau tystiolaeth, e-gyfnodolion, e-lyfrau, gwybodaeth am feddyginiaethau, canllawiau clinigol gan gynnwys y Royal Marsden Manual Online, BMJ Learning, BMJ Best Practice, BMJ Case Reports, ClinicalKey a ClinicalKey Nursing. 

Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais rhwydwaith GIG Cymru, ni ddylech orfod mewngofnodi. Os nad ydych wedi mewngofnodi i’r rhwydwaith GIG, gofynnir i chi fewngofnodi gyda chyfeiriad e-bost GIG Cymru neu gyfrif OpenAthens. 

BMJ Best Practice 

Mae BMJ Best Practice yn offeryn cefnogi penderfyniadau clinigol, sydd wedi’i strwythuro’n unigryw o amgylch yr ymgynghoriad â chleifion, gyda chyngor ar werthuso symptomau, trefnu profion a dull triniaeth. Mae’n cynnwys taflenni gwybodaeth i gleifion. 

Clinical Key 

Mae ClinicalKey  yn rhoi mynediad i grynodebau clinigol, 600+ o gyfnodolion, 1,150+ o lyfrau, adolygiadau systematig, canllawiau ymarfer, gwybodaeth i gleifion a 18,000 o fideos a delweddau sy’n ymwneud â’r holl arbenigeddau meddygol a llawfeddygol. Mae’r wybodaeth gyfredol hon, a adolygir gan gymheiriaid, sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei diweddaru’n ddyddiol. Mae ClinicalKey Nursing yn darparu e-gyfnodolion nyrsio arbenigol ac e-lyfrau yn ychwanegol at y nodweddion cyffredinol. Mae’n cynnwys taflenni gwybodaeth mewn sawl iaith. 

Cronfeydd data 

Databases - e-Library for Health Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn darparu ystod o gronfeydd data clinigol a rheoli gan gynnwys: 

Meddygaeth Gyflenwol a Pherthynol (AMED); Mynegai a Chrynodebau Gwyddor Gymdeithasol Gymhwysol (ASSIA); Cronfa Ddata Nyrsio Prydain; CINAHL Plus with Full Text; Llyfrgell Cochrane; EMBACE; Cronfa Ddata Gweinyddu Gofal Iechyd; Consortiwm Gwybodaeth Rheoli Iechyd (HMIC); Cronfa Ddata Mamolaeth a Gofal Babanod (MIDIRS); MEDLINE; Cyfres Gofal Iechyd Micromedex; Travel Health Pro; TRIP Pro; WISDOM. 

E-gyfnodolion ac e-lyfrau 

Mae’r e-Lyfrgell yn darparu mynediad i filoedd o e-gyfnodolion testun llawn cyfredol gan lawer o gyhoeddwyr. Mae e-lyfrau hefyd ar gael drwy ClinicalKey a ClinicalKey Nursing a chasgliadau eraill. Dylai pob e-lyfr fod ar gael i staff GIG Cymru, ac eithrio pan fo casgliadau BIP/Ymddiriedolaeth leol sydd ar gael i’r staff yn y BIP/Ymddiriedolaeth honno yn unig. 

Canllawiau, gweithdrefnau a llwybrau clinigol 

Mae tudalen canllawiau e-Lyfrgell GIG Cymru yn darparu dolenni i nifer o ffynonellau, gan gynnwys iRefer a WISDOM, yn ogystal â’r Royal Marsden Manual of Clinical Nursing Procedures. 

Gwybodaeth am feddyginiaethau 

Mae BNF, BNFC a Micromedex Healthcare Series ar gael.

Dilynwch ni