Neidio i'r prif gynnwy

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Ymwybyddiaeth gyfredol 

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd ar eich meysydd o ddiddordeb, yn syth i'ch mewnflwch, gyda KnowledgeShare. Gallwch nodi grwpiau oedran, gosodiadau, grwpiau proffesiynol a meysydd pwnc, a dewis amlder eich diweddariadau. I gofrestru, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein hon.

 

UpToDate 

Mae UpToDate yn adnodd cefnogi penderfyniadau clinigol y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i ganllawiau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar reoli miloedd o gyflyrau. Mae ar gael yn Search - UpToDate

Mae deunyddiau gwybodaeth i gleifion hefyd ar gael i chi eu lawrlwytho.

I gael mynediad at yr ap, gan ddefnyddio cyfrifiadur BIPCAF, cliciwch ar “Cofrestru” ar ochr dde uchaf yr hafan UptoDate er mwyn creu cyfrif. Gallwch nawr ei lawrlwytho i’ch ffôn o’ch siop apiau arferol.

 

BMJ Best Practice 

Mae BMJ Best Practice yn offeryn cefnogi penderfyniadau clinigol, sydd wedi’i strwythuro’n unigryw o amgylch yr ymgynghoriad â chleifion, gyda chyngor ar werthuso symptomau, trefnu profion a dull triniaeth. Mae’n cynnwys taflenni gwybodaeth i gleifion. 

 

Canllawiau, gweithdrefnau a llwybrau clinigol, a gwybodaeth am feddyginiaethau

Dewch o hyd i ddolenni i nifer o adnoddau, gan gynnwys BNF, BNFC, iRefer, Medicines Complete, a WISDOM, ar wefan e-Lyfrgell GIG Cymru.

 

ClinicalKey

Defnyddiwch ClinicalKey i gael mynediad at grynodebau clinigol, canllawiau ymarfer, adnoddau gwybodaeth amlieithog i gleifion, a dros 18,000 o fideos a delweddau sy'n ymwneud â phob arbenigedd meddygol a llawfeddygol. Mynediad drwy wefan e-Lyfrgell GIG Cymru.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn, cysylltwch â ni:  e-bost cochraneliby@cardiff.ac.uk, neu drwy ffôn 02920 716255.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni