Neidio i'r prif gynnwy

Atal Strôc - Adnoddau

Dogfennau cymorth gwrthgeulo mewn Ffibriliad Atrïaidd BIP Caerdydd a'r Fro

Mae gwybodaeth am y Gwasanaeth Uwch Lleol, dogfennau cymorth cwnsela a dogfen cymorth presgripsiynydd ar gael i gyd ar y Porth Clinigol. (Dim ond o gyfrif GIG y bydd hwn yn gweithio.)

Cwestiynau cyffredin

Yn dilyn y rhith-glinigau a'r cwestiynau unigol a ofynnwyd eisoes i'r tîm Atal Strôc, cynhyrchwyd canllaw cwestiynau cyffredin er mwyn ichi weld a oes ateb eisoes i'ch cwestiwn cyn defnyddio e-gyngor. 

AF AuditPlus

Mae offeryn archwilio (AF AuditPlus) a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn fodd o adnabod cleifion a monitro canlyniad adolygiadau cleifion. Bwriedir ei ddefnyddio gan reolwyr meddygfa a meddygon teulu. 

Porth E-Gyngor

Os nad yw'r dogfennau cymorth Ffibriliad Atrïaidd a'r cwestiynau cyffredin yn gallu ateb eich cwestiwn, defnyddiwch y ddolen isod i gael at y porth e-gyngor i gysylltu â'r tîm prosiect Atal Strôc yn uniongyrchol ynghylch eich claf. Anelir at ymateb i'ch ymholiad cyn pen 4 diwrnod. 

Sefydliad Prydeinig y Galon

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi datblygu nifer o ddogfennau arfer gorau i gefnogi presgripsiynwyr a chleifion wrth ymdrin â ffibriliad atrïaidd. 

Cynllun aelodaeth am ddim yw BHF Alliance sy'n rhoi cyfleoedd dysgu a datblygu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl y mae clefyd cardiofasgwlaidd yn effeithio arnynt neu sydd mewn perygl o'i gael.  

Canllaw NICE

Mae'r prosiect yn berthynol i ganllaw NICE ar reoli ffibriliad atrïaidd.

Gwybodaeth Bellach

Codau Read 

Mae'n bosibl cofnodi ar eich system meddygon teulu y cod Read ‘Anticoagulation med review’ 8BT3.

Gwella Gwasanaeth yn Barhaus

Mae'r tîm Gwella Gwasanaeth yn Barhaus yn rhoi cymorth i brosiect Atal Strôc i sicrhau bod y fethodoleg Gwella Ansawdd yn cael ei defnyddio i ddatblygu'r ffordd orau o ddarparu'r cymorth mwyaf defnyddiol i ymarferwyr Gofal Sylfaenol. I gael gwybod rhagor am Wella ansawdd a chael at y rhaglen Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd, trowch at dudalen hafan Gwella Gwasanaeth yn Barhaus ar y Porth Clinigol.  (Dim ond o gyfrif GIG y bydd hyn yn gweithio.)

Gwybodaeth gyswllt

I gael gwybod rhagor am y prosiect, cysylltwch â:

Vicki Burrell
Rheolwr Gwella Gwasanaeth
Llawr 1af, Monmouth House
Ysbyty Athrofaol Cymru
Caerdydd CF14 4XW

vicki.burrell@wales.nhs.uk