Neidio i'r prif gynnwy

Atal Strôc - Sut?

Mae tîm prosiect a arweinir gan haematolegydd ymgynghorol, meddyg strôc ymgynghorol a fferyllydd arbenigol gwrthgeulo wedi gweithio i greu partneriaeth â Gofal Sylfaenol.  

Eu gweledigaeth yw galluogi cleifion â ffibriliad atrïaidd i osgoi cael strôc a allai eu gwanychu drwy gefnogi ymarferwyr Gofal Sylfaenol i adnabod ac adolygu eu statws gwrthgeulo. 

  1. Bydd y tîm Atal Strôc yn ymweld â'ch cyfarfod clwstwr i ddechrau'r broses adolygu. Bydd hyn yn cynnwys dangos y data sydd ar gael ar nifer y cleifion â ffibriliad atrïaidd sydd efallai heb eu trin yn unol â chyfarwyddyd NICE yn eich ardal chi ac amlinellu'r cymorth sydd ar gael gan Ofal Eilaidd. 
  2. Ar ôl hyn gallwch gael at y modiwl AuditPlus Ffibriliad Atrïaidd (gweler Adnoddau) i ganfod y cleifion yn eich meddygfa y gall fod angen adolygiad gwrthgeulo arnynt. 
  3. Gweithiwch drwy'r rhestr hon i adnabod y rheini y mae angen apwyntiad arnynt i drafod penderfyniadau triniaeth. 
  4. Defnyddiwch yr adnoddau ar-lein, y dogfennau cwestiynau cyffredin a'r e-gyngor i'ch helpu drwy'r broses hon (gweler Adnoddau).
  5. Cynigir rhith-glinig ar gyfer achosion cymhleth gan y tîm Atal Strôc ar amser sy'n gyfleus i'ch clwstwr chi.  
  6. Defnyddiwch yr adnoddau'n barhaus i gynorthwyo gyda gwrthgeulo cleifion ffibriliad atrïaidd newydd.