Neidio i'r prif gynnwy

Atal Strôc - Pam?

Ffeithiau Strôc

  • Ffibriliad atrïaidd yw'r arhythmia cardiaidd parhaus mwyaf cyffredin ac mae'n ffactor risg sylweddol ar gyfer strôc. 
  • Ar hyn o bryd, cost gyfartalog y gofal (acíwt ac adsefydlu) i bob claf strôc yw £23 315 [1]. 
  • Dim ond 1/3 o bobl sy'n cael strôc sy'n gysylltiedig â Ffibriliad Atrïaidd sydd wedi'u trin â gwrthgeulyddion [4].
  • Mae rheoli ffibriliad atrïaidd mewn Gofal Sylfaenol yn y DU yn her adnoddau sydd am gynyddu wrth i'n poblogaeth heneiddio [3].

A wyddech chi...

  • Dioddefodd 7422 o bobl o strôc yng Nghymru yn 2014-2015 [1].
  • Oedran cyfartalog rhywun sy'n dioddef o strôc yng Nghymru yw 42 [1].
  • Mae ffibriliad atrïaidd yn ffactor sy'n cyfrannu at 20% o strociau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon [1].
  • Dim ond 4 mewn 10 o gleifion strôc sydd â ffibriliad atrïaidd sydd ar driniaeth wrthgeulo pan gânt eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon [1].
  • Bydd cynyddu'r gyfran o bobl â ffibriliad atrïaidd sydd ar wrthgeulyddion yn lleihau nifer y bobl sy'n cael strôc [5].
  • Yn ôl Safon Ansawdd 93 NICE, dylai oedolion â ffibriliad atrïaidd nad yw'n falfaidd sydd â sgôr risg strôc CHA2DS2-VASc yn fwy nag 1 mewn dynion neu 2 mewn menywod gael eu hystyried am driniaeth wrthgeulo, ac ni ddylai cleifion fod ar monotherapi aspirin i atal strôc os hwn yw'r unig arwydd [2].

Ym mis Mehefin 2014, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) Ganllaw Clinigol 180 “Ffibriliad Atrïaidd: rheoli" gyda'r nod o sicrhau bod pobl yn cael y rheolaeth orau i helpu i atal cymhlethdodau niweidiol, yn enwedig strôc a gwaedu. Yn ogystal, roedd fframwaith gweithredu'r GIG yn blaenoriaethu ffibriliad atrïaidd ac atal strôc yn feysydd allweddol ar gyfer cynnal ansawdd a gwelliannau gofal iechyd. Un nodwedd allweddol ar y ddau yw adnabod cleifion yn gynnar sydd mewn perygl o gael digwyddiadau thrombo-embolig a chychwyn ar unwaith wrthgeulydd geneuol oherwydd dangoswyd bod hwn yn lleihau risg strôc 2/3. Cefnogwyd yr argymhellion hyn gan AWMSG ac fe'u cadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru.

Awgryma'r data y gellir gwrthgeulo 40% o gleifion â ffibriliad atrïaidd yng Nghaerdydd a'r Fro nad ydynt ar y driniaeth briodol. Yng Nghaerdydd a'r Fro, ni fydd 2300 o gleifion ffibriliad atrïaidd ar wrthgeulyddion. Os caiff 920 o gleifion (40%) eu gwrthgeulo, bydd y risg strôc bob blwyddyn yn syrthio o 10% i 3%, a hynny'n atal 65 o strociau'r flwyddyn. Byddai hyn efallai'n cwtogi 10% ar yr holl strociau. 

Nid oes unrhyw gyfarwyddyd wedi'i gynhyrchu o'r blaen ar sut i drosglwyddo'r driniaeth hon. Nod y prosiect hwn yw llenwi'r bwlch hwnnw er mwyn cefnogi'r nod o gwtogi 10% ar yr holl strociau.

Cyfeiriadau

  1. Y Gymdeithas Strôc, State of the Nation Stroke Statistics January 2016.  Ar gael drwy:  https://www.stroke.org.uk/sites/default/files/stroke_statistics_2015.pdf  Cyrchwyd ar 15/06/16.
  2. Atrial Fibrillation. NICE Quality Standard QS93, July 2015. Cyrchwyd drwy:  https://www.nice.org.uk/guidance/qs93  Cyrchwyd ar 15/06/16.
  3. Managing atrial fibrillation in Primary Care: key issues for Primary Care practitioners, managers and commissioners of service, 2015. Cyrchwyd drwy https://www.bhf.org.uk/healthcare-professionals/best-practice/managing-atrial-fibrillation-in-primary-care. Cyrchwyd ar 05/09/16.
  4. https://www.bhf.org.uk/healthcare-professionals/best-practice/managing-atrial-fibrillation-in-primary-care/af-and-stroke---we-can-do-better  Cyrchwyd 09/01/2017.
  5. Law yn Llaw at Iechyd. Adroddiad Blynyddol Strôc 2016.  Cyrchwyd drwy:  http://gov.wales/docs/dhss/publications/161128stroke-reporten.pdf ar 09/01/2017.