CCAWS – Gwasanaeth Gofal Cymunedol a Lles Caerdydd
Gwasanaeth cwnsela yng Nghaerdydd
Gwefan: ccaws.org.uk/counselling/
Ffôn: 02920 345 294
Hosbis y Ddinas
Cwnsela a chefnogaeth i bobl mewn profedigaeth yng Nghaerdydd
Gwefan: www.cityhospice.org.uk/patients-and-families/bereavement-service/
Ffôn: 02920 524 158
The Mix
Mae gwasanaeth Cwnsela The Mix yn wasanaeth cwnsela digidol am ddim i unrhyw un rhwng 13 a 25 oed ledled y DU sy'n chwilio am gymorth tymor byr. Mae ein sesiynau'n cael eu cwblhau dros y ffôn a thrwy fideo. Mae ein cwnselwyr yn gallu darparu cymorth ar gyfer pynciau fel gorbryder, iselder, hunan-barch isel, yn ogystal â hunan-niweidio. Fodd bynnag, nid ydym yn wasanaeth argyfwng, felly rydym yn argymell bod unrhyw un sydd â syniadau neu fwriadau hunanladdol yn defnyddio gwasanaeth mwy uniongyrchol, fel 111 neu 999, i gael cymorth ar unwaith.
Mae ein sesiynau’n para am 50 munud a gall unigolyn ofyn am hyd at 8 sesiwn. Bydd y sesiynau hyn ar yr un amser a diwrnod bob wythnos, felly mae'n bwysig, wrth drefnu, eich bod ond yn dewis amser yr ydych chi’n gwybod yn hyderus y gallwch ei fynychu bob wythnos.
Mae angen cwblhau pob atgyfeiriad drwy'r wefan. Nid ydym yn gallu derbyn archebion dros e-bost. Os nad oes slotiau ar gael ar y pryd, efallai y bydd angen i chi roi cynnig arall arni yn nes ymlaen. Mae ein hamser aros presennol tua mis.
Gwefan: www.themix.org.uk
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.