Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am beth i’w wneud pxan fydd rhywun yn marw a’r cymorth sydd ar gael

Rydym yn flin iawn am eich colled, ac yn gobeithio y bydd y wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi.

Pan fydd rhywun agos atoch chi wedi marw, gall fod yn anodd iawn delio â’r holl drefniadau sydd angen eu gwneud a gwybod pwy y mae angen ei hysbysu. Mae galar yn unigryw i bob un ohonom a bydd profiad pawb yn wahanol. Mae cymorth profedigaeth cyffredinol a phenodol ar gael i’r rhai sydd ei angen, pa bynnag gam o alar a brofir.

Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw yn yr ysbyty:

Os bydd rhywun wedi marw yn un o’n hysbytai, bydd angen i’r perthynas agosaf gysylltu â’r Swyddfa Profedigaeth y diwrnod gwaith nesaf ar ôl 10am. Nid oes angen i chi fynd i’r Swyddfa Profedigaeth.

Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) 029 2184 2789
Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl)
Ysbyty'r Barri neu Ysbyty Dewi Sant
029 2182 5225

Bydd y Swyddfa Profedigaeth yn gallu rhoi cyngor i chi ar y broses yn dilyn marwolaeth yn yr ysbyty.


Llyfrynnau Profedigaeth

Darllenwch y Llyfrynnau Profedigaeth isod i gael gwybodaeth ymarferol a chymorth pellach yn Gymraeg ac yn Saesneg:

Llyfryn Profedigaeth UHW

Llyfryn Profedigaeth UHL

Gwybodaeth ynghylch marwolaeth eich plentyn

Canllaw Cymorth Galar Saesneg

Canllaw Cymorth Galar Cymraeg

Cyfieithiadau Canllaw Cymorth Galar – National Bereavement Alliance


Rhagor o wybodaeth: