Neidio i'r prif gynnwy

Eich Helpu Trwy Eich Galar

Mae galar yn unigryw i bawb. Nid oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir i deimlo. Er bod cyfnodau cydnabyddedig o alar, mae'n debygol na fyddwch yn symud ymlaen drwy'r rhain mewn modd clir a syml. Mae galar yn gymhleth ac yn anrhagweladwy, ac mae’r Gwasanaeth Cymorth Profedigaeth o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yma i’ch cefnogi.

Er y gall teulu a ffrindiau fod o gymorth mawr ar yr adeg hon, weithiau gall siarad â rhywun y tu allan i'r grŵp hwn roi llawer o gysur.

Mae llawer o elusennau profedigaeth a all ddarparu cymorth penodol yn dibynnu ar natur eich profedigaeth, a rhestrir rhai ohonynt isod. Cysylltwch â'n Tîm Cymorth Profedigaeth a all eich cynghori ynghylch cymorth penodol.