Mae CALDS yn dîm amlddisgyblaethol sy'n gweithio gyda theuluoedd plant (5 –17 oed) sydd ag Anabledd Dysgu. Rydym yn gweithio ar draws lleoliadau (cartref ac ysgol) ac yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg sy'n ymwneud â gofal a chymorth y plentyn neu'r person ifanc. Mae hefyd gennym ni gysylltiadau a gallwn ni eich cyfeirio at gefnogaeth y trydydd sector yn yr ardal leol.
Mae ein tîm amlddisgyblaethol yn cynnwys Nyrsys Anableddau Dysgu, Seicolegwyr Clinigol, Ymarferydd PBS, Seiciatrydd, Therapydd Galwedigaethol a Gweithwyr Iechyd Meddwl Graddedig. Gyda'n gilydd rydym yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys asesu ac ymyrryd, hyfforddi, ymgynghori a chyngor i asiantaethau eraill.
Cyflwyniad rhieni GADPG - Cliciwch yma
Atgyfeirio at CALDS
Gellir atgyfeirio plentyn neu berson ifanc at ein gwasanaeth am gymorth ychwanegol mewn meysydd fel lles emosiynol, ymddygiadau sy'n peri pryder, rheoleiddio, mynd i'r toiled, cwsg, galwedigaethau a chael mynediad at ofal iechyd.
Rydym yn cefnogi teuluoedd plant a phobl ifanc sydd ag Anabledd Dysgu, sydd rhwng 5 a 17 oed, sydd eisoes wedi rhoi cynnig ar ddulliau generig, sydd angen dull Anabledd Dysgu arbenigol ac sy'n wynebu heriau sy'n bresennol ar draws lleoliadau.
Mae CALDS yn derbyn atgyfeiriadau gan Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymunedol (megis Pediatregwyr), Gweithwyr Cymdeithasol a'r Uwch Dimau Arwain mewn Ysgolion Arbennig.
Tudalen yn cael ei datblygu
Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.