Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS)?

 

“Mae Pob Ymddygiad yn Digwydd am Reswm”

Gwelir ymddygiadau sy'n peri pryder, neu ‘Ymddygiadau Heriol’, yn gyffredin mewn plant ag Anabledd Dysgu.  Dyma'n aml eu prif ffordd o gyfleu eu hanghenion.  Gallai ymddygiad gynnwys pethau fel brifo pobl eraill neu eu hunain. Mae'n effeithio ar ansawdd eu bywyd gan y gall gyfyngu ar yr hyn y gallant ei wneud ac i ble y gallant fynd yn ddiogel. Mae hefyd yn effeithio ar lesiant y rhai o'u cwmpas!

Mae'n bwysig cofio bod pob ymddygiad yn digwydd am reswm, fel arfer dyma'r ffordd fwyaf effeithiol sydd gan blentyn i sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu.

‘Rydw i'n dy daro di pan rydw i eisiau fy ipad, rwyt ti'n rhoi'r ipad i fi’

‘Rwy'n dangos fy organau cenhedlu mewn archfarchnad, rwyt ti'n caniatáu i fi adael yn gyflym’

‘Rwy'n taenu fy maw ym mhobman, rydyn ni'n cael amser un i un braf ar unwaith tra byddi di'n fy nglanhau i’

‘Mae taro fy hun ar fy wyneb yn gwneud i'm poen dannedd ddiflannu am ychydig’

Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, neu PBS, yn fframwaith sy'n canolbwyntio ar y person a all gefnogi pobl ag amrywiaeth o anghenion gwahanol i fyw bywyd sy'n ystyrlon ac o werth iddyn nhw. Wrth wraidd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol mae'r ddealltwriaeth bod gan bob ymddygiad ystyr.

Pan fydd plant yn ymddwyn mewn ffordd sy'n peri pryder, maen nhw'n cyfleu yn y ffordd fwyaf effeithiol sydd ganddyn nhw nad yw rhywbeth yn iawn iddyn nhw.

Mae adnodd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol i Deuluoedd Unwaith i Gymru wedi'i gynllunio i uwchsgilio a grymuso teuluoedd ledled Cymru.  Teuluoedd yw'r arbenigwyr ar eu hanwyliaid ac maent yn bartneriaid allweddol o ran darparu'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.  Mae'r adnodd hwn ar gael i deuluoedd sy'n cefnogi unigolion ag anabledd dysgu trwy gydol eu hoes. 

Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a BILD (Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain) i deuluoedd ar Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol -

Adnodd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol Unwaith i Gymru i deuluoedd - Perfformiad a Gwella GIG Cymru

Gwyliwch ein Gweminar ar Ddeall Ymddygiad - https://m.youtube.com/watch?v=zhPDlgEaEb0

Y Sefydliad Ymddygiad Heriol - PBS ar gyfer gofalwyr teuluol - Sefydliad Ymddygiad Heriol

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni