Neidio i'r prif gynnwy

Ymwybyddiaeth am Wrthfiotigau

Heintiau cysylltiedig â gofal iechyd yw un o'r digwyddiadau andwyol mwyaf cyffredin wrth ddarparu gofal, a'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hachosi gan organebau sy'n ymwrthol i wrthfiotigau. Cam syml ond sylfaenol yw Atal a Rheoli Heintiau (IPC) sy'n helpu i ddiogelu pŵer gwrthfiotigau. 

Heintiau sy'n ymwrthol i gyffuriau: y ffeithiau

Nid yw gwrthfiotigau'n effeithiol yn erbyn peswch, annwyd, y ffliw na dolur gwddw, fel rheol. Feirysau sy'n achosi'r rhan fwyaf o beswch, annwyd a'r rhan fwyaf o ddolur gwddw a'r ffliw, ac nid yw gwrthfiotigau'n gweithio yn erbyn feirysau. Ni all gwrthfiotigau eich helpu i wella o heintiau a achosir gan feirysau, fel annwyd cyffredin, a'r rhan fwyaf o beswch a dolur gwddw, am nad yw gwrthfiotigau ond yn effeithiol yn erbyn heintiau bacteriol. Gall heintiau ysgafn â bacteria hefyd wella heb wrthfiotigau. Cofiwch olchi eich dwylo; dyma'r un ffordd orau o atal heintiau'r llwybr resbiradu rhag lledu.

Efallai bydd yr wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi 


C. Pan fydd peswch, annwyd neu ddolur gwddw arnaf, fe ddylwn …

A. ... holi fferyllydd yn gyntaf sut mae trin y symptomau. Mae fferyllydd yn arbenigo mewn meddyginiaeth, a gall eich helpu i drin eich symptomau a'ch poen â thriniaethau dros y cownter. Fodd bynnag, os oes gennych symptomau difrifol ac arwyddion rhybudd salwch difrifol fel anhawster anadlu neu wayw yn y frest, dylech gael sylw meddygol ar unwaith; cewch wybod rhagor yn treatyourselfbetter.co.uk 

C. Mae llawer o annwyd ar hyd y lle. Rwyf wedi clywed bod cymryd gwrthfiotigau 'rhag ofn' yn gallu cynyddu nifer yr heintiau sy'n ymwrthol i gyffuriau. 

A. Bydd cymryd gwrthfiotigau pan na fydd eu hangen arnoch yn galluogi bacteria i ddatblygu ymwrthedd i'r gwrthfiotig. Mae bacteria yn addasu ac yn canfod ffyrdd o oroesi effeithiau gwrthfiotigau. Efallai hefyd y gelwir y bacteria hyn sy'n ymwrthol i gyffuriau yn rhai 'sy'n ymwrthol i wrthfiotigau': nid yw gwrthfiotigau yn lladd y germau hyn rhagor. Po fwyaf y defnyddiwch wrthfiotig, mwyaf y daw'r bacteria'n ymwrthol iddo. 

Pan gymerwch wrthfiotigau, gallant hefyd ladd y bacteria da sy'n byw yn eich corff ac yn ei ddiogelu, gan eich gwneud chi'n fwy agored i haint o facteria niweidiol eraill a allai fod yn ymwrthol i gyffuriau. Hefyd, yn yr un modd â'r rhan fwyaf o feddyginiaethau, gall cymryd gwrthfiotigau achosi sgil-effeithiau. Mae heintiau sy'n ymwrthol i gyffuriau yn anodd eu trin ac yn gallu effeithio ar unrhyw un; yn benodol, maent yn bygwth pobl hŷn a'r rheini â systemau imiwnedd gwannach. 

C. Mae fy meddyg teulu wedi rhoi presgripsiwn byr yn unig o wrthfiotigau i mi, ond rwy'n credu bod eu hangen arnaf am hirach.  

A. Dylech gymryd y gwrthfiotigau yn ôl y presgripsiwn – neu efallai na fyddant yn clirio'r haint. Pan roir gwrthfiotigau ar bresgripsiwn gan weithiwr iechyd proffesiynol, mae'n bwysig eu cymryd bob amser yn ôl y cyfarwyddiadau. Rhoir dos benodol o wrthfiotigau dros gyfnod o amser er mwyn bod yn optimaidd i glirio haint; gall newid y ddos leihau effeithiolrwydd y gwrthfiotigau a galluogi'r bacteria i ddatblygu ymwrthedd i'r cyffuriau. Ni ddylech byth rannu eich gwrthfiotigau gydag unrhyw un arall - dim ond i chi y maen nhw, ac efallai na fyddant yn effeithiol ar gyfer heintiau gwahanol mewn unigolyn arall.

Mae heintiau sy'n ymwrthol i gyffuriau, a elwir hefyd yn heintiau sy'n ymwrthol i wrthfiotigau, yn ddifrifol oherwydd…

  • efallai na fydd gwrthfiotigau'n gweithio yn erbyn bacteria ymwrthol 
  • heb wrthfiotigau effeithiol, daw llawer o driniaethau neu lawdriniaethau rheolaidd fel cemotherapi, llawfeddygaeth a thoriadau Cesaraidd yn fwyfwy peryglus neu amhosibl
  • mae gorddefnyddio gwrthfiotigau'n golygu y bydd ymwrthedd i wrthfiotigau'n lledu'n gyflymach a chyflymach
  • mae heintiau sy'n ymwrthol i gyffuriau yn effeithio ar bobl ac anifeiliaid

Lledaeniad heintiau sy'n ymwrthol i gyffuriau yw un o'r bygythiadau mwyaf sy'n ein hwynebu heddiw: mae triniaethau a llawdriniaethau rheolaidd yn dibynnu ar wrthfiotigau i weithio! Mae angen i bob un ohonom weithredu'n awr i atal lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau, neu efallai na fyddant ar gael inni lawer yn rhagor.

I helpu i wneud eich rhan i atal lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau, dewiswch addewid yn AntibioticGuardian.com

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol gael gwybod rhagor am Ymwybyddiaeth am Wrthfiotigau drwy'r tabiau ar y dde.  

Dilynwch ni