Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r Gwasanaeth Brys y Tu Allan i Oriau

CHAP

Pwy ydyn ni a beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yn darparu gofal meddygol brys i gleifion os nad all eu cyflwr aros nes y tro nesaf y bydd eu meddygfa deulu ar agor.  

Nid yw gofal brys yn cynnwys annwyd, trwyn llawn ac ati. Gellir trin y rhain drwy hunanofal a thrwy ymweld â'ch Fferyllydd. Rydym yn ymdrin â Chaerdydd a Bro Morgannwg i gyd, gan ddarparu gofal brys i fwy na 500,000 o gleifion.

 

Amseroedd Agor ein Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

  • 6.30pm - 8am yn ystod yr wythnos

  • 6.30pm nos Wener – 8am fore Llun

  • Gwasanaeth 24 awr yn ystod gwyliau banc

Gall y gwasanaeth fynd yn brysur iawn ac atgoffir cleifion na ddylid defnyddio'r gwasanaeth heblaw bod angen brys nad all aros nes y tro nesaf y bydd eu meddygfa deulu eu hunain ar agor.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu gofal deintyddol brys. Ceir apwyntiadau deintyddol brys cyfyngedig i gleifion y tu allan i oriau agor rheolaidd. Asesir cleifion gan glinigwr dros y ffôn i ganfod a fydd gofyn apwyntiad fel hwn.

O ble ydyn ni'n gweithio?

Gweithredwn dair Canolfan Gofal Sylfaenol (CGS); mae dwy ohonynt yng Nghaerdydd ac un yn y Barri. 

Trefnir apwyntiadau yn ôl angen clinigol a byddwch chi'n cael yr amser apwyntiad nesaf sydd ar gael. Nid yw'r holl ganolfannau ar agor ar unwaith a bydd apwyntiadau'n cael eu dyrannu yn y lleoliad mwyaf priodol yn unol ag argaeledd. 

Cysylltwch â Ni

E-bost: cardiffandvaleooh@wales.nhs.uk

Ffôn: 0300 10 20 247

 

 

Dilynwch ni