Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin am y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Beth ddylwn ei wneud os oes angen imi weld meddyg tra bydd fy meddygfa ar gau? 

Os oes angen gofal brys arnoch ac os nad allwch aros nes bydd eich meddygfa deulu'n ailagor, dylech ffonio Galw GIG Cymru ar 0845 4647 i gael cyngor ar y driniaeth fwyaf priodol i'ch anghenion, boed honno'n hunanofal, eich fferyllfa leol neu'r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau. 

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ffonio'r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau?

Cymerir eich manylion gan unigolyn sydd wedi'i hyfforddi i ymdrin â galwadau – bydd yn eich holi am natur eich problem yn ogystal ag unrhyw hanes meddygol blaenorol ac unrhyw feddyginiaethau a gewch ar bresgripsiwn. 

Cewch alwad yn ôl gan glinigydd (meddyg, nyrs neu barafeddyg) a fydd yn trafod eich pryderon, ac yna'n penderfynu ar y gofal mwyaf priodol. Efallai y cewch chi gyngor iechyd, cynnig apwyntiad i weld Clinigydd yn un o'n Canolfannau Gofal Sylfaenol, cael eich cyfeirio at wasanaeth arall fel Fferyllydd neu Optegydd lleol, neu efallai y cynghorir ichi gysylltu â'ch meddygfa deulu eich hun yn ystod oriau arferol y feddygfa.  

A fyddaf yn gallu gweld meddyg? 

Os penderfynir bod angen ichi gael asesiad wyneb yn wyneb, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu yn un o'n Canolfannau Gofal Sylfaenol, gyda chlinigydd sy'n briodol i'ch cyflwr chi - gallai hwn fod yn Barafeddyg, yn Nyrs neu'n Feddyg Teulu. 

Gellir trefnu ymweliadau cartref, ond mae'r rhain i gleifion sy'n gaeth i'r tŷ neu'n derfynol wael, neu'r rheini sy'n ddifrifol wael ac a allai waethygu drwy deithio.

A fyddaf yn cael presgripsiwn? 
Os penderfynir pan gewch eich asesu fod angen unrhyw feddyginiaeth, byddwch yn cael presgripsiwn. Yna, cewch eich cyfeirio at fferyllfa leol i'w gasglu. Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio'r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ar gyfer presgripsiynau rheolaidd a rhaid ichi sicrhau bod y rhain wedi'u diweddaru drwy eich meddygfa deulu.

A fydd fy meddyg teulu fy hun yn cael gwybod? 
Bydd. Ar y diwrnod gwaith nesaf, bydd eich meddygfa deulu'n cael gwybod eich bod wedi cysylltu â'r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ac am unrhyw driniaeth ddilynol y gall fod ei hangen arnoch. Os cawsoch eich cynghori gan glinigydd, naill ai dros y ffôn neu yn ystod asesiad wyneb yn wyneb, fod angen ichi gael apwyntiad dilynol gyda'ch meddyg teulu eich hun, bydd angen ichi gysylltu â'ch meddygfa chi o hyd i drefnu apwyntiad.

 

Dilynwch ni