Neidio i'r prif gynnwy

Anhwylderau Plentyndod

Two children playing with wooden blocks

Fel y gŵyr y rhan fwyaf o rieni, mae plant yn aml yn datblygu amryw afiechydon ac anhwylderau. Os yw eich plentyn yn dioddef o unrhyw un o'r canlynol, nid oes angen ichi ddod i'n Huned Achosion Brys na Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau, a chewch driniaeth a chyngor fel arfer gan eich meddyg teulu neu Fferyllydd. Sgroliwch i lawr am gyngor ar sut mae trin eich plentyn ar gyfer rhai o'r afiechydon cyffredin hyn, ac am ba hyd y dylech eu cadw draw o'r feithrinfa neu'r ysgol yn dilyn yr anhwylderau hyn. Fel arall, gallech lawrlwytho taflen "When Should I Worry” sy'n cynnwys canllawiau defnyddiol ar ofalu am blentyn sâl.

 


Am ba hyd y mae angen imi gadw fy mhlentyn draw o'r feithrinfa neu'r ysgol?
 

Anhwylder 

Amser i Ffwrdd 

Nodiadau Arbennig 

Brech yr ieir Gall y plentyn ddychwelyd pan fydd yr holl bothelli wedi tyfu cramennau drostynt – nid oes angen aros i'r holl smotiau ddiflannu.  Dylid osgoi menywod beichiog -  dylid rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu fydwraig am unrhyw gyswllt yn ystod beichiogrwydd. 
Llid y gyfbilen Dim  
Dolur rhydd a chwydu  Gall y plentyn ddychwelyd 48 awr wedi'r pwl olaf o ddolur rhydd/chwydu.   
Twymyn y Chwarennau Dim  
Clefyd y Dwylo, y Traed a'r Genau  Dim  
Llau pen  Dim  
Impetigo Nes bod y namau wedi tyfu cramennau a sychu NEU 48 awr ar ôl dechrau gwrthfiotigau. Mae triniaeth gwrthfiotigau'n cyflymu'r broses wella ac yn cwtogi ar y cyfnod heintus. 
Y frech goch Pedwar diwrnod o ddechrau'r frech.  Dylid osgoi menywod beichiog -  dylid rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu fydwraig am unrhyw gyswllt yn ystod beichiogrwydd. 
Molluscum Contagiosum Dim Cyflwr hunan-gyfyngol. 
Y darwden Nid oes angen fel arfer.  Mae angen triniaeth.
Clefyd crafu Gall y plentyn ddychwelyd wedi'r driniaeth gyntaf. Argymhellir trin y plentyn a phawb yn y cartref a ddaw i gyswllt â'r plentyn. 
Y dwymyn goch Gall y plentyn ddychwelyd 24 awr wedi dechrau gwrthfiotigau.  
Yr Eryr Gwahardd dim ond os yw'r frech yn diferu, heb fod modd ei gorchuddio.  Dylid osgoi menywod beichiog -  dylid rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu fydwraig am unrhyw gyswllt yn ystod beichiogrwydd. 
Clefyd y Foch Goch Dim (pan fydd brech wedi datblygu). Dylid osgoi menywod beichiog -  dylid rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu fydwraig am unrhyw gyswllt yn ystod beichiogrwydd. 
Llyngyr edau Dim
Argymhellir trin y plentyn a phawb yn y cartref a ddaw i gyswllt â'r plentyn. 
 
Tonsilitis Dim Mae llawer o achosion ond fe'i hachosir gan amlaf gan feirysau, heb fod angen gwrthfiotigau arnynt.
Dafadennau a Ferwcau Dim Dylid gorchuddio ferwcau mewn pyllau nofio, campfeydd ac ystafelloedd newid.

 

 

 

Dilynwch ni