Mae gennym bolisi ymweld agored yn yr Uned Gofal Dwys i Blant sy'n caniatáu i chi fod gyda'ch plentyn cymaint â phosibl a rhaid i chi fyth deimlo'ch bod chi yn y ffordd. Unwaith eto, byddwn ni'n gofyn i chi adael yr uned yn ystod rowndiau ward y meddygon, pan fydd y nyrsys yn trosglwyddo shifftiau ac mewn unrhyw argyfwng. Eto, gwneir hyn i sicrhau bod y wybodaeth a drafodir am eich plentyn yn aros yn gyfrinachol i'r bobl sy'n gofalu am eich plentyn ac amdanoch chi. Byddwn yn gofyn am eich rhif ffôn cyswllt ac yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw newidiadau pwysig i'ch plentyn pan na fyddwch yno.
Pan fyddwch yn cyrraedd yr Uned Gofal Critigol i Blant, ffoniwch gloch y drws cyn dod i mewn i'r brif uned a gofynnwch i rywun ymateb. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar, oherwydd gallem fod yn brysur.
Naill ai defnyddiwch yr hylif diheintio dwylo ag alcohol wrth y prif ddrws, neu golchwch eich dwylo wrth gyrraedd a gadael yr uned. Dyma ffordd bwysig o atal haint rhag lledaenu.
Mae ymweld ar agor i bob aelod o'r teulu ac i ffrindiau. Fodd bynnag, byddwch cystal â chadw at ddau ymwelydd wrth y gwely ar unrhyw adeg benodol. Gofynnir yn garedig i ymwelwyr sy'n cyrraedd yr Uned yn eich absenoldeb, nad yw'r staff nyrsio yn eu hadnabod, aros yn yr ystafell aros hyd nes byddwch yn dychwelyd.
Gallwch ffonio'r uned unrhyw bryd. Fodd bynnag, gallwn ond roi gwybodaeth i rieni a phrif ofalwyr, gan fod y wybodaeth hon yn gyfrinachol.
Awgrymwn eich bod yn gofyn i un aelod o'r teulu gysylltu â'r uned a throsglwyddo'r wybodaeth i weddill y teulu. Bydd hyn yn ddefnyddiol o ran cyfyngu ar nifer y galwadau mae'r Uned Gofal Critigol i Blant yn eu cael, gan fod y llinellau ffôn yn llinellau brys.
Rhif ffôn yr Uned Gofal Critigol i Blant yw 029 2074 3282 – dyma linell uniongyrchol i'r uned.