Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro – Rôl a Swyddogaethau

Yng Nghymru mae cyfanswm o 7 Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau.

Mae Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro (BCA CAF) yn cynnwys sefydliadau partner sy’n gweithio tuag at ddull system gyfan. Gyda’i gilydd, mae partneriaid BCA CAF yn rhannu’r cyfrifoldeb am ddatblygu, darparu a gwella gwasanaethau camddefnyddio sylweddau effeithlon ac effeithiol, i ddiwallu anghenion y boblogaeth.

Mae gweithio ar y cyd a thuag at ddull system gyfan yn bwysig i BCA CAF. Gall unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau fod yn delio â llu o faterion cymhleth, gan gynnwys iechyd meddwl a thai. Mae'n bwysig i BCA CAF fod gan wasanaethau cymorth ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn diwallu anghenion unigolion y mae achosion o gamddefnyddio sylweddau yng Nghaerdydd a'r Fro yn effeithio arnynt, ni waeth pa mor gymhleth ydynt.

Mae BCA CAF yn ceisio gwneud y defnydd gorau o adnoddau, gan osgoi dyblygu triniaeth a gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae hefyd yn gyfrifoldeb ar y BCA i gynnal rheolaeth strategol ar yr adnoddau ariannol a ddefnyddir i ariannu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Mae BCA CAF yn darparu trosolwg lefel uchel o’r archwiliad ac asesiad perfformiad o wasanaethau a gomisiynir ar gyfer camddefnyddio sylweddau, a chydymffurfiaeth â’r Safonau Craidd Cenedlaethol a Chynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2019-22 a luniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Partneriaid

  • Bwrdd Iechyd y Brifysgol (BIP)
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Awdurdodau Lleol Caerdydd a'r Fro
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
  • Diogelwch Cymunedol
  • Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Heddlu De Cymru
  • Y Trydydd Sector

Tîm Cymorth BCA

Mae gan Fwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro dîm ymroddedig sy’n cefnogi’r BCA i gyflawni ei ddyletswyddau o ddatblygu, darparu a gwella gwasanaethau camddefnyddio sylweddau lleol effeithlon ac effeithiol.

Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae Tîm Cymorth y BCA yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae Tîm Cymorth y BCA yn cefnogi gwasanaethau a phartneriaethau i weithio gyda’i gilydd i leihau’r niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau yn ein cymunedau ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod rhaglen waith flynyddol camddefnyddio sylweddau Caerdydd a’r Fro yn cael ei chyflawni.

Mae Tîm Cymorth y BCA yn monitro gwerthoedd a pherfformiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gomisiynir, i sicrhau eu bod yn bodloni meini prawf a’r hyn y gellir ei gyflawni yn y Safonau Craidd Cenedlaethol a Chynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2019-22 a luniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Llywodraethu BCA

Mae'n ofynnol i Fwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (BCA CAF) fod â set gadarn o strwythurau llywodraethu corfforaethol ar waith er mwyn bodloni ei rwymedigaethau o dan y Safonau Craidd Cenedlaethol ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau.

Mae BCA CAF yn cysylltu â Bwrdd Cyflawni Diogelwch Cymunedol Caerdydd, Grŵp Arwain Diogelwch Cymunedol Caerdydd, a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Bro Morgannwg ac yn adrodd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn ogystal ag adrodd i Lywodraeth Cymru.

Mae bwrdd y BCA yn derbyn adroddiadau ac argymhellion, perfformiad ac ariannol, gan y grŵp Comisiynu, Cyllid a Chyflawni. Mae’r Grŵp Comisiynu, Cyllid a Chyflawni yn cael cyngor a chymorth gan amrywiaeth o is-grwpiau arbenigol. Parhewch isod am fanylion pellach.

Is-Grwpiau

Grŵp Comisiynu, Cyllid a Chyflawni

Mae’r Grŵp Comisiynu, Cyllid a Chyflawni yn gyfrifol am ddatblygu, hybu, goruchwylio a rheoli’r gwaith o gyflawni rhaglen waith y BCA.

Y Grŵp Alcohol

Mae’r Grŵp Alcohol wedi’i sefydlu i wella perthynas y boblogaeth ag alcohol a lleihau effeithiau negyddol yfed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Fforwm Plant a Phobl Ifanc

Mae Fforwm Plant a Phobl Ifanc wedi’i sefydlu i rannu gwybodaeth ac arfer gorau mewn perthynas â phlant, pobl ifanc a chamddefnyddio sylweddau, ac i nodi tueddiadau newydd mewn camddefnyddio sylweddau, a bylchau/cyfleoedd yn y gwasanaethau a ddarperir, gan amlygu’r rhain i Grŵp Comisiynu, Cyllid a Chyflawni’r Bwrdd Cynllunio Ardal.

Grŵp Lleihau Niwed

Lleihau niwed i’r unigolyn a’r gymdeithas yn sgil defnyddio cyffuriau ac alcohol, camddefnydd neu ddibyniaeth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Grŵp Triniaeth, Therapïau a Llywodraethu

Darparu trosolwg, craffu a chyngor mewn perthynas â thriniaethau a therapïau camddefnyddio sylweddau presennol, rhai newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, a rhoi sicrwydd i’r BCA mewn perthynas â llywodraethu clinigol ac arferion rheoli risg mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i bob oed yng Nghaerdydd a’r Fro.

Os hoffech ragor o wybodaeth am Fwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein tudalen Cysylltu â Ni.

Dilynwch ni