Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion

Cwynion am Ddarparwr Gwasanaeth

Os ydych yn anhapus â’r cymorth neu’r driniaeth a gawsoch gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, argymhellir eich bod yn codi eich pryderon yn uniongyrchol drwy broses gwyno’r sefydliad.

Cwynion am aelod o Dîm Cymorth BCA


Os nad ydych yn fodlon ar ymddygiad aelod o’r Tîm Cymorth BCA, argymhellir eich bod yn ceisio siarad â’r aelod o staff dan sylw yn gyntaf. Os na fydd hyn yn datrys y mater sy’n peri pryder, neu os nad ydych am siarad â’r aelod o staff yn uniongyrchol, argymhellir eich bod yn dilyn proses gwyno Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ‘Gweithio i Wella’.

Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad y broses gwyno 'Gweithio i Wella', gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Cymorth Pellach a Gwasanaethau Eirioli

Mae cymorth eirioli ar gael drwy Borth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro.

Fel arall, gellir cael cymorth pellach gan Gyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg, sy’n cynnig gwasanaeth eirioli annibynnol am ddim a arweinir gan gleientiaid, sy’n cwmpasu pob agwedd ar driniaeth a gofal y GIG.

Dilynwch ni