Mae symptomau anhwylderau cydbwysedd yn y glust fewnol fel arfer yn dechrau fel teimlad troelli (vertigo cylchdro) wrth symud. Yn fwyaf cyffredin, mae hyn wrth rolio drosodd yn y gwely neu edrych i fyny.
Mae'r Tîm Cydbwysedd yn asesu ac yn adsefydlu anhwylderau vestibular (pendro neu anghydbwysedd yn ymwneud â'r glust fewnol). Os ydych yn dioddef o bendro, fertigo neu anghydbwysedd, efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at yr Adran Awdioleg am asesiad. Yn dibynnu ar eich symptomau efallai y byddwch hefyd yn gweld meddyg mewn Meddygaeth Clywedol neu ENT.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch apwyntiadau os gwelwch yn dda e-bost: balanceserviceshelpline.cav@wales.nhs.uk neu ffoniwch 02921841081
Dolenni Defnyddiol
Ménière’s and Vestibular UK – gwybodaeth am bob math o fertigo a phendro:
www.meandve.org.uk
Rhagor o gyngor ar adsefydlu a llesiant:
www.meandve.org.uk/information-and-support/treatment-and-management/vestibular-rehabilitation
Gwefan Keeping Me Well Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – ymarferion i wella cydbwysedd:
keepingmewell.com (chwiliwch am "balance")
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.