Rydym ar agor ar gyfer atgyweiriadau galw heibio yn Ysbyty Athrofaol Cymru a Chanolfan Feddygol Cei’r Gorllewin (Y Barri). Gweler yr oriau agor isod.
Oriau agor YAC (Ysbyty Athrofaol Cymru):
Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc)
9.00yb - 12.00yp a 1.30yp - 4.00yp
Cofrestrwch wrth y ddesg ar ôl cyrraedd.
Oriau agor CMCG (Canolfan Feddygol Cei’r Gorllewin):
Dydd Mawrth a dydd Iau yn unig
9.00yb - 12.00yp a 1.30yp - 4.00yp
Cymerwch rif ac eisteddwch; cewch eich galw pan fydd eich tro.
Sylwer bod terfyn o 30 o gleifion yn y bore a 24 o gleifion yn y prynhawn.
Dylai eich cymorth clyw gael ei wasanaethu bob 6 mis er mwyn cynnal ansawdd y sain. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwasanaethu eich cymorth clyw eich hun, cysylltwch â'n hadran i drefnu i diwbiau gael eu postio atoch.
Gweler ein canllawiau Aildiwbio ar gyfer Mowldiau Clust ac Aildiwbio ar gyfer Tiwbiau Tenau am ragor o wybodaeth. Efallai y bydd y fideos canlynol yn ddefnyddiol i chi hefyd:
Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch cymorth clyw, efallai y byddwch chi'n gallu eu datrys yn hawdd gartref. Gweler ein canllaw datrys problemau ar gyfer mowldiau clust a chanllaw datrys problemau ar gyfer tiwbiau tenau i ddarganfod mwy.
Amgaewch y cymorth clyw a disgrifiad byr o'r broblem, ynghyd â'r cymorth clyw, eich enw a'ch dyddiad geni. Bydd yn cael ei wasanaethu cyn gynted â phosibl a'i ddychwelyd trwy bost ail ddosbarth ysbyty, heb unrhyw gost ychwanegol. Os hoffech i’ch cymorth clyw gael ei ddychwelyd dosbarth cyntaf, amgaewch bum stamp dosbarth cyntaf wrth bostio’ch cymhorthion clyw.
Darperir yr holl fatris yn rhad ac am ddim bob blwyddyn. Anfonwch e-bost neu ffoniwch ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt canlynol i ofyn i fatris gael eu postio atoch.
Er mwyn lleihau'r ôl troed carbon, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu eich batris yn eich canolfannau ailgylchu neu archfarchnadoedd lleol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ailgylchu eich batris, gweler 'Ailgylchu mewn Awdioleg' .
Mae RNID yn cynnal sesiynau galw heibio am ddim mewn sawl lleoliad ar draws ardal Caerdydd a’r Fro, gan gynnig cymorth gyda chynnal a chadw cymhorthion clyw’r GIG, atgyweirio cymhorthion clyw, a darparu gwybodaeth am golli clyw a thinitws.
I gael mynediad at sesiwn RNID Near You, dilynwch y ddolen hon a rhowch eich cod post.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.