Neidio i'r prif gynnwy

Ein Canolfannau Brechu Torfol

Os ydych wedi cael gwahoddiad i fynychu un o’n Canolfannau Brechu Torfol i gael eich brechlyn COVID-19, efallai y bydd y cyfeiriadau canlynol yn ddefnyddiol i chi er mwyn dod o hyd i’r ganolfan.


Fideos taith drwy Ganolfan Brechu Torfol

Canllaw cam wrth gam ar fynychu apwyntiad yn un o’n Canolfannau Brechu Torfol.

Fideos taith drwy Ganolfan Brechu Torfol


Ysbyty’r Barri

Ysbyty’r Barri, Heol Colcot, y Barri, CF62 8HY

Ar drafnidiaeth gyhoeddus, llwybr Bws Caerdydd rhif 96 o ganol Caerdydd sy’n cyrraedd agosaf

Amseroedd agor

09:00 i 18:00

Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar gael ar y safle

** Bydd hi’n bosibl galw heibio i MVC y Barri bob dydd o 9am-6pm tan ddydd Sul, 3 Mawrth 2024, ond yna bydd ar agor ar ddyddiau Sadwrn a Sul yn unig (9am-6pm hefyd).

 

Ysbyty Rookwood

Ysbyty Rookwood, Heol y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2YN

Ar drafnidiaeth gyhoeddus, llwybr Bws Caerdydd rhif 24 a 25 o ganol Caerdydd sy’n cyrraedd agosaf. Mae gorsaf drenau yn y Tyllgoed sydd tua 10 munud ar droed o’r Ganolfan Brechu Torfol hefyd.

Amseroedd agor

09:00 i 18:00

Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar gael ar y safle

** Bydd hi’n bosibl galw heibio i MVC Rookwood bob dydd o 9am-6pm tan ddydd Sadwrn, 30 Mawrth, 2024

 

Hyb Llesiant Maelfa

Hyb Llesiant Maelfa, Llanedeyrn, Caerdydd CF23 9PF

Ar drafnidiaeth gyhoeddus, llwybr Bws Caerdydd rhif 57 a 58 o ganol Caerdydd sy’n cyrraedd agosaf

Amseroedd agor

STOPIODD Y GANOLFAN BRECHU TORFOL HON WEITHREDU YM MIS RHAGFYR 2023

Mae ein safleoedd yn Nhŷ Coetir, Bae Caerdydd a’r Sblot bellach wedi cau.

Dilynwch ni