Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Brechu Torfol COVID-19

Diweddarwyd ddiwethaf: 20/12/23

Clinigau galw heibio ar gyfer brechlyn y ffliw, Covid-19 ac MMR i agor i'r cyhoedd o 2 Ionawr

Mae ein rhaglen Dos Atgyfnerthu’r Gaeaf COVID-19 bellach ar y gweill. Cael y dos atgyfnerthu yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hunain, eich anwyliaid a’r gymuned rhag salwch difrifol, felly ewch i’ch apwyntiad pan gewch eich gwahodd. 

Bydd y brechlyn yn cael ei roi mewn practisau meddyg teulu, fferyllfeydd cymunedol ac yn ein tair Canolfan Brechu Torfol (MVC), a bydd y rhai sy’n gymwys yn derbyn gwahoddiad yn y post. Nid oes angen cysylltu â’r Bwrdd Iechyd na’ch practis meddyg teulu yn uniongyrchol. 

Os ydych chi hefyd yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw, efallai y bydd meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol a Chanolfannau Brechu Torfol yn gallu cynnig y brechlyn COVID a’r brechiad rhag y ffliw ar yr un pryd os oes stoc ar gael. Mae staff y Bwrdd Iechyd yn cael eu gwahodd i ddechrau drwy glinigau galw heibio. 

Mae’r bobl a fydd yn gymwys i gael brechlyn COVID-19 yr hydref a’r gaeaf hwn yn cynnwys: 

  • Oedolion sy’n 65 oed ac yn hŷn 

  • Preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn 

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd Imiwneiddio 

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen 

  • Pobl rhwng 12 a 64 oed sy’n gysylltiadau cartref i bobl sy’n imiwnoataliedig (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd

  • Pobl rhwng 16 a 64 oed sy’n ofalwyr (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd

  • Pobl ddigartref 

Bydd y brechlyn COVID a’r brechiad rhag y ffliw yn cael eu rhoi ar yr un pryd lle bynnag y bo modd, a bydd llythyrau apwyntiad yn dechrau cyrraedd cartrefi ym mis Medi. Tra bydd y rhan fwyaf o bobl Bro Morgannwg yn mynychu MVC y Barri, yng Nghaerdydd bydd MVC newydd yn Hyb Llesiant Maelfa, Llanedeyrn ac Ysbyty Rookwood yn Llandaf. 

 

Rydym yn ymwybodol o negeseuon e-bost sgam sy'n cylchredeg ynglŷn â brechiadau COVID-19 sy'n honni eu bod yn dod o'r GIG. Ar hyn o bryd, ni ellir prynu brechlynnau COVID-19 yn breifat yn y Deyrnas Unedig ac mae brechiadau'n rhad ac am ddim. Byddwch yn effro i sgamiau posibl ynglŷn â'r Rhaglen Brechu Torfol COVID-19, a pheidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol.

Dilynwch ni