Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Misol Nyrsio Cymunedol

O fewn Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolradd (PCIC), mae’r gweithlu yn cynnwys nyrsys yn bennaf ac mae gan nyrsys yn y gymuned rolau amrywiol a deinamig.

O fis i fis, mae ein nyrsys cymunedol yn darparu gofal diogel ac effeithiol bob dydd yng nghartrefi pobl, mewn lleoliadau cymunedol, meddygfeydd teulu a chlinigau sy’n galluogi cleifion i aros yng nghysur eu cartrefi eu hunain a’u hatal rhag cael eu derbyn i’r ysbyty.

Dyma faint o gleifion ar draws Caerdydd a’r Fro a gafodd gefnogaeth gan ein Timau Nyrsio Cymunedol ym mis Gorffennaf.

 

Nyrsys Ardal: 

Wedi gwneud 17,100 o ymweliadau â chleifion yn y gymuned.

 

Nyrsys Cymunedol: 

Yn cefnogi 3,536 o gleifion i gael gofal diogel ac effeithiol yn y cartref ar hyn o bryd.

 

Aseswyr Nyrsio: 

Wedi sicrhau bod 1,632 o gleifion yn derbyn gofal diogel a phriodol mewn lleoliadau cymunedol a chartrefi gofal.

 

Tîm Adnoddau Cymunedol Caerdydd a Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro: 

Wedi derbyn 249 o gleifion sydd angen cymorth therapi yn y gymuned a wedi helpu 77 o gleifion i adael yr ysbyty yn gynnar.

 

Rydym yn gwerthfawrogi gwaith ein timau cymunedol yn fawr iawn, a hoffem ddiolch i’r timau a’r wardiau sy’n parhau i wneud y mwyaf o’n gwasanaethau cymunedol.

Dilynwch ni