Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio Yn Ein Cymuned gyda PCIC

Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolradd, neu PCIC, yn aml yw drws ffrynt y gwasanaeth gofal iechyd ac mae'n cwmpasu ystod eang o ddarpariaethau i sicrhau bod ein poblogaeth o gleifion yn gallu cael mynediad at wasanaethau arbenigol yn eu cymuned.

Gan weithio #YnEinCymuned, maeweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn darparu gofal amhrisiadwy i bobl yn eu cartrefi eu hunain, cartrefi gofal, canolfannau gofal iechyd cymunedol, yn eu practisau meddyg teulu neu mewn clinigau yn eu cymuned. Mae ein tîm amrywiol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws ein timau PCIC yn cefnogi cleifion i sicrhau eu bod yn derbyn gofal diogel ac effeithiol, sydd nid yn unig yn galluogi cleifion i aros yng nghysur eu cartrefi eu hunain, ond hefyd yn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty.

Cymerwch gipolwg ar rai o’r rolau cyffrous sydd ar gael gennym! Swyddi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (gig.cymru)

Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys:

  • Gweithiwr Cymorth Ailalluogi
  • Cydlynydd Ailalluogi
  • Nyrsio Ardal
  • Nyrsio Cymunedol
  • Gofal Sylfaenol Brys/Tu Allan i Oriau
  • Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol
  • Imiwneiddio a Phrofi
  • Timau Adnoddau Cymunedol
  • Prentisiaethau Gofal Sylfaenol

 

Diweddariad Misol Nyrsio Cymunedol

Darganfyddwch faint o gleifion ar draws Caerdydd a’r Fro a gafodd gefnogaeth gan ein Timau Nyrsio Cymunedol fis diwethaf.

 

Dilynwch ni