Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin Banc - Canllaw i Staff Parhaol (Mewnol)

Sut alla i ddod o hyd i sifftiau sydd ar gael?

I ddod o hyd i sifftiau sydd ar gael mae gennych nifer o opsiynau, gallwch: 

  • Ffonio'r Adran Staff Dros Dro - 029 20716200
  • Edrych ar dudalen Facebook yr Adran Staffio Dros Dro

Sut alla i archebu sifft sydd ar gael?

I archebu sifft sydd ar gael gallwch: 

  • Ffonio'r Adran Staff Dros Dro – 02920 716200
  • Anfon neges trwy Dudalen Facebook yr Adran Staffio Dros Dro
  • defnyddio'r swyddogaeth hunan-ddyrannu newydd yn y cyfrif R-Roster

Pa mor bell ymlaen llaw y gallaf archebu sifft?

Yn dibynnu ar y meysydd clinigol, mae rhai sifftiau ar gael gymaint â 4 wythnos ymlaen llaw. 

Beth os bydd angen i mi ganslo sifft?

Os digwydd hyn ‘Allan o Oriau’ yna cysylltwch â’r ward rydych wedi eich dynodi iddi cyn gynted â phosib, a rhowch wybod iddynt nad ydych yn gallu gweithio’r sifft.

Os yw hyn mewn oriau arferol, yna cysylltwch â'r Adran Staffio Dros Dro. Ceisiwch roi cymaint o rybudd â phosibl i'n helpu i lenwi'r sifft rydych chi'n ei chanslo. 

Faint o oriau ychwanegol y gallaf eu gweithio?

Rydych chi'n gallu gweithio hyd at 52.2 awr yr wythnos, yn unol â'r gyfarwyddeb amser gwaith Ewropeaidd. Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynghylch y gyfarwyddeb amser gwaith, mae'r Polisi Amser Gweithio wedi'i restru ar ein tudalen polisïau'r gweithlu

A fyddaf bob amser yn gwybod i ba faes clinigol y caf fy nyrannu?

Fel nyrs banc, rydych chi'n gyffredinol yn dewis ble rydych chi am weithio, ond nodwch y gallwch chi gael eich symud o bryd i'w gilydd oherwydd angen clinigol - eithriadau yw pan fyddwch chi'n archebu sifft 'POOL'.

Ble ddylwn i gyfeirio fy nghwestiynau os oes gen i ymholiad cyflog?

Yn gyntaf, mae'n syniad da bob amser cysylltu â'r maes clinigol y buoch yn gweithio ynddo, er mwyn gwirio a yw'r sifft wedi'i dilysu.

Os yw'ch sifft wedi'i dilysu, yna mae angen i chi gysylltu â'r adran gyflogres.

Os nad wyf wedi gweithio sifft banc yn ystod y 3 mis diwethaf - a wyf yn dal yn aelod o'r banc neu a wyf wedi cael fy nileu o'r system?

Os nad ydych wedi gweithio sifft mewn 3 mis, bydd angen i chi gysylltu â'r Adran Staffio Dros Dro yn gyntaf cyn archebu unrhyw sifftiau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae yna nawr dudalen Facebook Adran Staffio Dros Dro, y gallwch ofyn am gael ymuno â hi. 

Dilynwch ni