Dylai eich plentyn fod wedi cael brecwast da ar y diwrnod.
Bydd eich plentyn yn mynd i ardal ddynodedig yn yr ysgol - Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i'ch plentyn am yr amser.
Os oes gan eich plentyn unrhyw bryderon, gall siarad â'r nyrs, ac mae sgriniau ar gael ar gyfer preifatrwydd.
Bydd nyrs yn egluro beth fydd yn digwydd ac yn gwirio bod y plentyn yn hapus i fwrw ymlaen.
Rhoddir y brechlyn yn rhan uchaf y fraich - mae'n well gwisgo crys neu grys-t llewys byr o dan eu crys ar y diwrnod.
Dim ond ychydig funudau y mae'r broses gyfan yn ei gymryd.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.