Ydych chi wedi meddwl am wirfoddoli a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a llesiant pobl yn eich cymuned?
Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro yn croesawu gwirfoddolwyr sydd eisiau helpu i adeiladu cymunedau iachach, hyrwyddo llesiant a chefnogi pobl i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau iechyd dibynadwy.
P'un a ydych chi eisoes yn gwirfoddoli gyda ni, wedi cofrestru'n ddiweddar neu â diddordeb mewn darganfod mwy, rydym yn awyddus iawn i chi glywed am y cyfleoedd sydd ar gael a sut y gallech chi gymryd rhan. Mae gwahanol lefelau o gyfranogiad yn dibynnu ar eich argaeledd (gweler y cyfleoedd gwirfoddoli isod).
Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at iechyd y cyhoedd. Mae eu hamser, eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad yn ein helpu i gysylltu â chymunedau, rhannu gwybodaeth iechyd ddibynadwy a chefnogi ein gwaith i atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.”
Mae atal wrth wraidd iechyd y cyhoedd. Mae'n ymwneud â helpu pobl i aros yn iach am hirach, cefnogi dewisiadau iachach a chreu'r amodau lle mae gan bawb y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Fel gwirfoddolwr, gallwch chi chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod hyn yn digwydd yn eich cymuned.
Gallai hyn gynnwys:
Weithiau, gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr. Gall sgwrs, rhannu gwybodaeth ddefnyddiol neu helpu rhywun i gysylltu â'r gefnogaeth iawn gael effaith gadarnhaol ar fywyd bob dydd.
Rydym yn awyddus i wirfoddoli gyda Thîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro fod yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil.
P'un a ydych chi'n newydd i'r byd gwirfoddoli neu os oes gennych chi brofiad eisoes, byddwn ni'n darparu'r wybodaeth, yr hyfforddiant a'r arweiniad sydd eu hangen arnoch chi i deimlo'n hyderus ac wedi'ch cefnogi yn eich rôl.
Mae hyn yn cynnwys:
Bydd eich hyfforddiant hefyd yn ymdrin â meysydd pwysig fel cyfrinachedd, cynnal ffiniau priodol a beth i'w wneud os oes gennych bryderon ynghylch diogelwch neu lesiant rhywun.
Byddwch yn cael eich cefnogi i rannu negeseuon iechyd y cyhoedd a gymeradwywyd a helpu pobl i gysylltu â'r wybodaeth a'r gwasanaethau cywir.
Yn bwysicaf oll, nid oes byth disgwyl i wirfoddolwyr roi cyngor clinigol nac ymgymryd â gweithgareddau y tu allan i gwmpas eu rôl. Os ydych chi'n ansicr am rywbeth, bydd rhywun yn y tîm y gallwch chi droi ato bob amser.
Disgwylir i bob gwirfoddolwr gynnal gwerthoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Mae hyn yn golygu trin pawb â charedigrwydd, urddas a pharch, bod yn gynhwysol, yn hawdd mynd atoch, a gweithredu'n gyfrifol.
Hoffem i bawb yn ein cymunedau deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, ac mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn hyn o beth.
Mae gwirfoddoli yn gyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill, ond gall hefyd fod yn hynod werth chweil i chi.
Yn dibynnu ar eich diddordebau a'r cyfleoedd sydd ar gael, gall gwirfoddoli eich helpu i wneud y canlynol:
Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i gael mynediad at hyfforddiant pellach, cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau neu archwilio rolau gwirfoddol eraill wrth i'ch profiad ddatblygu.
Hoffem eich cefnogi i elwa cymaint â phosibl o'ch profiad gwirfoddoli.
P'un a ydych chi'n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned, datblygu sgiliau newydd neu ennill profiad, mae gwirfoddoli gyda Thîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro yn gyfle gwych i wneud cyfraniad cadarnhaol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gyfleoedd gwirfoddoli a sut allwch chi gymryd rhan, e-bostiwch PublicHealth.Volunteers.CAV@wales.nhs.uk
Os ydych chi eisoes wedi ymuno â ni fel gwirfoddolwr, croeso cynnes iawn i'r tîm! Diolch i chi am roi eich amser a'ch egni i'r gwaith pwysig hwn.
Gyda'n gilydd, gallwn hyrwyddo cymunedau iachach, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles pobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.