Neidio i'r prif gynnwy

John's Campaign

Beth yw John’s Campaign?

Mae John’s Campaign yn hyrwyddo hawliau pobl â dementia yn yr ysbyty i gael cwmni eu gofalwyr ar unrhyw adeg. Sefydlwyd yr ymgyrch ar ôl marwolaeth Dr John Gerrard ym mis Tachwedd 2014 gan Nicci Gerrard a Julia Jones.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn safle trydyddol acíwt a, thrwy ymgynghori ag Uwch Nyrsys, penderfynwyd mabwysiadu egwyddorion yr Ymgyrch yn hytrach na’r Ymgyrch yn ei chyfanrwydd. Bydd yr Ymgyrch yn cael ei threialu ar 4 ward i ddechrau ac yna’n cael ei chyflwyno fesul cam.

Fel Bwrdd Iechyd rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae pob gofalwr yn ei chyflawni, felly bydd egwyddorion John’s Campaign yr ydym yn bwriadu eu mabwysiadu yn berthnasol i bob gofalwr ac nid yn benodol i ofalwyr pobl â Dementia.

Pa rai o egwyddorion John’s Campaign y bydd y Bwrdd Iechyd yn eu mabwysiadu?

Mae’r egwyddorion y bydd y Bwrdd Iechyd yn eu mabwysiadu yn gysylltiedig â ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014’. Yr elfennau yw;

Adnabod gofalwyr di-dâl yn gynnar.

Sicrhau bod gan ofalwyr di-dâl lais, eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac y cyfathrebir â hwy.

Sicrhau bod gofalwyr di-dâl bob amser yn cael eu croesawu ar y wardiau a, lle bo’n bosibl, byddwn yn eu cefnogi i barhau â’u rôl ofalu, os ydynt yn dymuno, e.e. amser bwyd, gofal personol a rheoli meddyginiaethau ac ati.

Fodd bynnag, gofynnwn i ofalwyr di-dâl barchu preifatrwydd cleifion eraill, materion ward, megis amseroedd cau, a dweud wrthym os oes angen ein cymorth a’n cefnogaeth arnynt.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, cysylltwch ag Emma Murdoch neu Suzie Becquer-Moreno drwy e-bostio pe.cav@wales.nhs.uk

Dilynwch ni