Neidio i'r prif gynnwy

Gofalwyr Staff - Gwybodaeth a Chefnogaeth

Mae 1 o bob 9 o weithwyr yn y DU yn ofalwr, sy'n ceisio cydbwyso gwaith â gofalu am deulu neu ffrindiau sy'n hŷn, yn sâl neu'n anabl. Fel Bwrdd Iechyd rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo llesiant ein gweithlu a chefnogi staff sy'n cyfuno gwaith â chyfrifoldebau gofalu.

Mae gofalwr yn gyflogai sydd, y tu allan i'r gwaith, yn darparu gofal di-dâl i aelod o'r teulu neu ffrind sydd angen cefnogaeth neu blentyn anabl. Gall unrhyw un ddod yn ofalwr ar unrhyw adeg.

Gall perthynas ddatblygu dementia, gallai partner brofi cyflwr iechyd meddwl, gall plentyn gael diagnosis o awtistiaeth neu fod ag anabledd dysgu, gallai ffrind agos gael ei ddiagnosio â chanser neu gallai cymydog fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â thasgau beunyddiol heb deulu gerllaw.

Gall gofalu am rywun gynnwys eu helpu gyda siopa, glanhau, coginio a chynorthwyo gyda meddyginiaeth neu fynd â nhw i apwyntiadau ysbyty/meddyg. Gall hefyd gynnwys cefnogaeth emosiynol ac ariannol yn ogystal â helpu rhywun i gyfleu ei anghenion.

Fel gofalwr, gall fod yn anodd weithiau jyglo gwaith gyda chyfrifoldebau gofalu, ac mae hyn yn cael ei wneud yn anoddach oherwydd natur newidiol y rôl ofalu. Gall y sefyllfa newid yn sydyn, gan achosi straen ychwanegol i'r gofalwr.

Gall hyn gynnwys gorfod gwneud penderfyniadau anodd a allai fynd â'ch sylw oddi ar eich gwaith, neu gynnwys gorfod ymdopi ag emosiynau anodd fel delio â salwch angheuol.

Gall eich cyfrifoldebau gofalu olygu bod rhaid i chi adael y gwaith yn brydlon i fynd i apwyntiad neu ddarparu gofal, ac efallai na fydd gennych y gallu i weithio'n hwyr ar fyr rybudd bob amser. Bydd llawer o ofalwyr yn ceisio cadw eu bywydau gwaith a'u sefyllfaoedd gofalu ar wahân, gan wynebu'r heriau ar eu pennau eu hunain, tra efallai na fydd rhai staff hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn ofalwyr.

Rydym yn parchu hawl unigolyn i breifatrwydd, ond rydym yn annog staff sy'n ofalwyr i siarad â'u Rheolwyr Llinell am eu sefyllfa i'w helpu i ddeall y rôl ofalu fel y gallant gynnig cefnogaeth lle bo hynny'n bosibl.

Tîm Profiad Cleifion

Os ydych chi'n gofalu am rywun ac yr hoffech gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i chi, cysylltwch â'r Tîm Profiad Cleifion ar 029 2184 5692 neu e-bostiwch  pe.cav@wales.nhs.uk 

Tîm Iechyd Galwedigaethol

Mae'r Tîm Iechyd Galwedigaethol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i'r holl staff. Maent yn ymwneud â'r effeithiau y gall gwaith eu cael ar eich iechyd a'r effeithiau y gall eich iechyd eu cael ar eich gallu i weithio. Mae mwy o fanylion ar eu tudalen we neu gellir cysylltu â nhw drwy e-bost.

Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr

Mae'r Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr yn helpu i gael gafael ar unrhyw gymorth sy'n ofynnol gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae ganddynt gysylltiadau ag ystod eang o sefydliadau a all ddarparu cyngor a gwybodaeth ymarferol, broffesiynol ac arbenigol ar bynciau fel iechyd meddwl, tai, dyled a'r gyfraith. Gellir cysylltu â nhw ar 029 2074 4465.

Canolfannau Gwybodaeth

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Ganolfannau Gwybodaeth ar gael i staff a chleifion yn YAC, YALl ac Ysbyty'r Barri. Mae ganddyn nhw ystod eang o daflenni, llyfrynnau a deunyddiau sy'n berthnasol i nifer o afiechydon a phroblemau. Gall staff yn y canolfannau hyn gynorthwyo i ddod o hyd i wybodaeth ac argraffu dogfennau pellach os oes angen. Mae pob ymholiad yn gyfrinachol.

Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP)

Mae Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP) yn cynnal Sesiynau Iechyd a Llesiant am ddim i bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd tymor hir a phobl sy'n gofalu am ffrind neu berthynas. Gall pobl ddysgu gwell dulliau ymdopi ar gyfer poen, blinder, iselder, straen ac unigrwydd. Gallant ddod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo cwsg a dysgu mwy am ymarfer corff a bwyta'n iach. Gallwch gysylltu â nhw ar 029 2033 5403. Gallwch hefyd anfon neges destun gydag "interested" yn y teitl a'ch enw i 07976050178.

Mae nifer o Bolisïau y gellir eu defnyddio gan staff y Bwrdd Iechyd i helpu i gefnogi eu rôl ofalu, siaradwch â'ch Rheolwr Llinell neu cysylltwch â'r Tîm Profiad Cleifion i gael mwy o wybodaeth. Mae'r holl bolisïau hefyd ar gael ar dudalennau mewnrwyd y Bwrdd Iechyd.

Fel arall, gallwch ddefnyddio'r cyfrawyddiadur ar-lein Dewis i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi.

Dilynwch ni