Mae gofalwyr yn gofalu am rywun - perthynas, ffrind neu gymydog - sy'n sâl, yn fregus neu'n anabl ac yn methu ag ymdopi ar eu pennau eu hunain neu sy'n methu ag ymdopi heb gymorth oherwydd eu bod yn oedrannus, yn anabl oherwydd afiechyd corfforol neu feddyliol, anabledd dysgu, cyffur neu broblem alcohol neu gyda salwch tymor hir.
Efallai eu bod yn darparu rôl ofalgar am gwpl o oriau'r wythnos neu'n gofalu am rywun dros 30 awr yr wythnos; mae gan bawb hawl i help a chefnogaeth.