Er mwyn gwella'r gwasanaeth a ddarparwn, byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ddiolchgar pe gallech gwblhau arolwg byr am eich profiad gofal iechyd diweddaraf. Gallai hyn fod yn ystod arhosiad diweddar yn yr ysbyty, ymweliad â’r uned llawdriniaeth ddydd neu apwyntiad fel claf allanol.
Dylai'r arolwg gymryd tua 2 funud i'w gwblhau, mae'n wirfoddol ac mae'r holl ganlyniadau'n ddienw.
Wrth ateb y cwestiynau, helpwch ni drwy roi eich barn onest a pheidiwch â chynnwys unrhyw beth personol nad ydych yn dymuno iddo gael ei wneud yn gyhoeddus, oherwydd ar brydiau efallai y byddwn yn dymuno rhannu eich adborth yn ddienw. Nid oes angen i ni wybod eich manylion personol ond byddwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol am bwy ydych chi yn nes ymlaen yn yr arolwg. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gofyn i bob grŵp o bobl am eu profiad.
Os ydych chi’n helpu rhywun i gwblhau’r arolwg, sicrhewch mai eu barn nhw sy’n cael ei nodi.
I gychwyn yr arolwg, cliciwch yma.