Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgaredd Corfforol

Eistedd llai, symud mwy ac yn amlach

Mae bod yn egnïol yn helpu i leihau a chynnal pwysau, yn lleihau straen ac yn codi hwyliau, yn cryfhau esgyrn a chyhyrau ac yn lleihau'r risg o ddatblygu cyflyrau a chlefydau cronig, gan gynnwys pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, diabetes a strôc. Gweler y ddogfen Gweithgaredd Corfforol - Canllawiau a Gwybodaeth am fwy o fanylion.

Faint sy'n dda i mi?

Mae bod yn egnïol yn golygu codi curiad y galon, teimlo'n gynhesach (hyd yn oed torri i chwys ysgafn) a gwneud i'r ysgyfaint weithio'n galetach.

Dylai oedolion anelu at o leiaf 150 munud o weithgaredd cymedrol i egnïol bob wythnos yn cynnwys rywfaint o weithgaredd corfforol bob dydd am gyfnodau o 10 munud a mwy.

Dylai plant a phobl ifanc geisio gwneud oddeutu 60 munud neu fwy o weithgaredd cymedrol i egnïol bob wythnos.

Edrychwch ar ein mapiau cerdded i'n safleoedd ysbytai a chymunedol!

Mae bob 10 munud yn cyfrif!

Ceisiwch fod yn egnïol bob dydd mewn talpiau o 10, 20 neu 30 munud, os yw'n haws.

Dod yn fwy egnïol

  • Mae dod yn fwy egnïol yn llawer haws pan fydd yn rhan o fywyd a gweithgareddau o ddydd i ddydd.
  • Eisteddwch lai pan fyddwch gartref neu yn y gwaith.
  • Adeiladwch gerdded a beicio i'ch trefn ddyddiol, trwy gerdded i'r siopau, gwaith, i'r ysgol, neu wrth ymweld â theulu a ffrindiau.
  • Ewch allan am dro sionc bob dydd.
  • Defnyddiwch y parciau a'r mannau gwyrdd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
  • Defnyddiwch lai ar y car a defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus; ceisiwch ddod oddi ar y bws un stop yn gynharach.
  • Rhowch gynnig ar weithgareddau newydd mewn canolfannau lleol, gan gynnwys cryfder a chydbwysedd i bobl hŷn.
  • Arbedwch arian trwy wneud y gorau o'r awyr agored: cerdded, loncian, rhedeg neu arddio - maen nhw am ddim ac ar gael i bawb  (Awyr Agored Caerdydd – Cerdded yng nghefn gwlad  – Rhedeg yn y Parc Caerdydd
  • Mae Pedal Power yn elusen leol sy'n hyrwyddo beicio ar gyfer pob oedran a gallu. Darganfyddwch fwy am y gwasanaethau a'r cyfleusterau maen nhw'n eu cynnig ar eu gwefan.
  • Chwaraewch chwaraeon tîm ac ymunwch â thîm pêl-droed neu bêl-fasged lleol
  • Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Mae gan y Ganolfan Hamdden Leol amrywiaeth eang o weithgareddau i bobl roi cynnig arnyn nhw, mae'r dosbarthiadau ar agor i bawb gyda lefelau o ddechreuwyr i ganolradd ar gael (Canolfannau Hamdden yng Nghaerdydd a'r Fro)

Gwybodaeth a Syniadau Pellach ar gyfer bod yn egnïol

Hyfforddiant ac adnoddau

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yn ddull o newid ymddygiad sy'n defnyddio'r miliynau o weithgareddau rhyngweithio o ddydd i ddydd y mae sefydliadau ac unigolion yn eu cael â phobl eraill i'w cefnogi a'u grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a'u llesiant corfforol a meddyliol. Mae gweithgaredd corfforol yn rhan bwysig o'r sgwrs hon ac mae'n hanfodol i gynnal bywyd hapus ac iach; edrychwch ar wefan MECC i ganfod mwy.

Gwybodaeth gyswllt

  • Lauren Idowu, Lauren Idowu, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd. E-bost: Lauren.Idowu@wales.nhs.uk
  • Hwb Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru am adnoddau i gefnogi'ch gwaith. Ffôn: 029 2010 4650.
Dilynwch ni