Neidio i'r prif gynnwy

Atal Cwympo

Atal Cwympo

Wrth i ni heneiddio, efallai y byddwn ni'n dechrau darganfod ein bod ni'n mynd ychydig yn simsan neu ddim yn teimlo mor gryf ag yr oedden ni'n arfer gwneud. Gall pethau eraill fod yn digwydd ar yr un pryd, fel defnyddio mwy o feddyginiaethau neu newid yn ein golwg. Gall hyn olygu ein bod mewn mwy o berygl o gwympo, ac er na fydd hyn yn arwain at anaf sylweddol i lawer o bobl, gall olygu y bydd yn digwydd eto.

Gwyddom y bydd traean o bobl dros 65 oed yn cwympo bob blwyddyn. Fodd bynnag, y newyddion da yw nad yw achosion o gwympo yn rhan anochel o heneiddio, ac mae modd atal llawer ohonynt. Bydd y dudalen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am sut i leihau ein risg o gwympo ac i ble allwch chi fynd os ydych yn poeni am gwympo.

Clinigau Aros yn Gadarn

Gwyddom fod angen ychydig o gymorth ar bobl weithiau i allu deall beth yw’r risg o gwympo a sut i gymryd y camau sydd eu hangen i leihau’r risg honno.

Felly, yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym wedi sefydlu clinigau sy’n cael eu rhedeg gan ffisiotherapyddion ac sy’n arbenigo mewn cwympo, a all ddarparu asesiadau ac yna cyngor ar leihau’r risg o gwympo. 

Cynigir y clinigau hyn naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo diogel. I ddarganfod a fyddai'r clinigau hyn yn addas i chi, atebwch y cwestiynau canlynol:

 

1. Ydych chi wedi cwympo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? Ydw/Nac ydw

2. Oes angen i chi ddefnyddio'ch dwylo i godi o gadair neu ydych chi’n teimlo'n simsan ar eich traed? Oes/Nac oes

3. Ydy’r ofn o gwympo yn eich atal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau neu wneud tasgau dyddiol? Ydy/Nac ydy

Os mai 'Ydw'/’Oes’/’Ydy’ oedd eich ateb i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, gallai'r clinigau fod yn wasanaeth addas i chi gael rhywfaint o gyngor. Gadewch eich manylion cyswllt ar 029 2183 2552 neu staysteady.cardiff@wales.nhs.uk a byddwn yn cysylltu â chi o fewn ychydig ddyddiau.

Os ateboch ‘Nac ydw’/’Nac oes’/’Nac ydy’ i bob un o’r cwestiynau, gallwch wneud yn siŵr eich bod yn cadw eich risg yn isel drwy wneud ymarfer corff rheolaidd, cael maeth da, sicrhau eich bod yn cael profion llygaid rheolaidd a gofalu am eich iechyd a’ch llesiant cyffredinol.

I gael rhagor o wybodaeth am atal achosion o gwympo, ewch i wefan Age Cymru sydd â llawer o gyngor defnyddiol, drwy glicio yma.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y ffilm a'r animeiddiad isod.

 

Adnoddau Fideo

A allech chi elwa o'n Clinigau Rhithiol Aros yn Gadarn?

Mae Ein Fframwaith Cwympo: Lleihau y Risg a'r Niwed yn amlinellu ein dull o atal cwympo.

Dilynwch ni