Neidio i'r prif gynnwy

Atal Cwympo

Cyflwyniad

Mae cwympiadau ac anafiadau sy’n gysylltiedig â chwympiadau yn bryder iechyd y cyhoedd mawr a gallant fod yn broblem gyffredin a difrifol i bobl hŷn. Gall cwympo effeithio ar les corfforol a meddyliol person. Gall pobl ddioddef anafiadau corfforol, ond mae’r effaith seicolegol a’r ofn o gwympo eto yn gallu bod yr un mor niweidiol a gall arwain at ynysu ac unigrwydd.   Er nad yw’r rhan fwyaf o gwympiadau’n arwain at anaf difrifol, gall rhai cwympiadau olygu derbyniad i’r ysbyty.

Nid yw cwympo yn rhan anochel o heneiddio ac mae yna lawer o ymyriadau a all leihau’r risg o gwympo’n sylweddol. Mae cwympiadau yn aml yn aml-ffactor a gallant fod yn arwydd o broblemau iechyd sylfaenol fel eiddilwch.  Mae yna lawer o wasanaethau ac ymyriadau yng Nghaerdydd a’r Fro sy’n ceisio atal achosion o gwympo a helpu pobl i heneiddio’n dda.

 

Atal achosion o gwympo

Wrth i ni heneiddio, efallai y byddwn ni’n dechrau darganfod ein bod ni’n mynd ychydig yn simsan neu ddim yn teimlo mor gryf ag yr oedden ni’n arfer gwneud. Gall pethau eraill fod yn digwydd ar yr un pryd, fel defnyddio mwy o feddyginiaethau neu newid yn ein golwg. Gall hyn olygu ein bod mewn mwy o berygl o gwympo, ac er na fydd hyn yn arwain at anaf sylweddol i lawer o bobl, gall olygu y bydd yn digwydd eto.

Gwyddom y bydd traean o bobl dros 65 oed yn cwympo bob blwyddyn. Fodd bynnag, y newyddion da yw nad yw achosion o gwympo yn rhan anochel o heneiddio, ac mae modd atal llawer ohonynt. Bydd y dudalen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am sut i leihau ein risg o gwympo ac i ble allwch chi fynd os ydych yn poeni am gwympo.

 

Clinigau Aros yn Gadarn

Gwyddom fod angen ychydig o gymorth ar bobl weithiau i allu deall beth yw’r risg o gwympo a sut i gymryd y camau sydd eu hangen i leihau’r risg honno.

Felly, yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym wedi sefydlu clinigau sy’n cael eu rhedeg gan ffisiotherapyddion ac sy’n arbenigo mewn cwympo, a all ddarparu asesiadau ac yna cyngor ar leihau’r risg o gwympo. 

Cynigir y clinigau hyn naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo diogel. I ddarganfod a fyddai’r clinigau hyn yn addas, gallwn ofyn y cwestiynau canlynol:

1. Ydych chi wedi cwympo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? Do/Naddo

2. Ydych chi’n gorfod defnyddio’ch dwylo i godi o gadair neu ydych chi’n teimlo’n simsan ar eich traed? Ydw/Nac ydw

3. Ydy’r ofn o gwympo yn eich atal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau neu wneud tasgau dyddiol? Ydy/Nac ydy

 

Os mai ‘Do’/‘Ydw’/‘Ydy’ oedd eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, gallai’r clinigau fod yn wasanaeth addas i chi gael rhywfaint o gyngor. Cysylltwch â ni ar 029 2183 2552 neu staysteady.cardiff@wales.nhs.uk a byddwn mewn cysylltiad o fewn ychydig ddyddiau.

Os ateboch ‘Naddo/‘Nac ydw’/‘Nac ydy’ i’r 3 chwestiwn, mae hyn yn dynodi risg isel y gellir ei chynnal trwy wneud ymarfer corff rheolaidd, dilyn arferion maeth da, cael profion llygaid rheolaidd a gofalu am eich iechyd a’ch lles cyffredinol.

Ewch i ‘Cadw Fi'n Iach’ am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a’r gweithgareddau a all ein helpu i heneiddio’n dda a lleihau’r risg o gwympo. Mae gan y dudalen hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol am ffactorau risg achosion o gwympo a’r pethau y gallwn eu gwneud i’w lleihau. 

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni