Neidio i'r prif gynnwy

Alcohol

Mae llawer o bobl yn mwynhau yfed alcohol yn gymedrol fel rhan o'u ffordd o fyw, ond gall yfed yn ormodol neu 'oryfed mewn pyliau' gael effaith niweidiol ar ein hiechyd a'n llesiant, yn ogystal ag eraill o'n cwmpas.

Yn aml, gall y faint yr ydym yn ei yfed gynyddu’n araf a chyn eich bod chi’n sylweddoli rydych chi'n yfed llawer mwy nag yr oeddech wedi'i fwriadu gwneud.

Mae'r risgiau o yfed gormod o alcohol wedi'u hen sefydlu; mae alcohol yn gysylltiedig â mwy na 200 math o glefydau cronig, damweiniau ac anafiadau. Mae camddefnyddio alcohol yn un o brif achosion marwolaethau cynamserol y gellir eu hatal, ac mae'n gysylltiedig ag 1 o bob 20 marwolaeth.

Yng Nghymru a Lloegr, mae data dros dro yn dangos bod 7,423 o farwolaethau yn benodol i alcohol yn 2020 (tua 13 fesul 100,000 o bobl). Mae hwn yn gynnydd o 19.6% mewn marwolaethau ers 2019.

Mae yfed alcohol yn fwy na'r hyn yr argymhellir yn lleiaf cyffredin ymhlith oedolion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac mae yfed alcohol yn cynyddu wrth i lefelau amddifadedd leihau. Fodd bynnag, mae'r niwed o ganlyniad i yfed alcohol o ran derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau ar ei fwyaf o fewn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (gelwir hyn yn 'baradocs niwed alcohol').

Mae lefelau uchel o yfed alcohol o fewn economi'r nos yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cyfrannu at drais a throseddau sy'n gysylltiedig ag alcohol, y nifer o unigolion sy’n mynd i’r Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru a'r Ganolfan Trin Alcohol yng nghanol dinas Caerdydd

 

Mentrau prosiect cyfredol

 

Partneriaeth Alcohol Cymunedol Caerdydd

Mae Partneriaethau Alcohol Cymunedol yn cynnwys partneriaethau rhwng sefydliadau megis prifysgolion, awdurdodau lleol, yr heddlu a darparwyr iechyd sy'n gweithio gyda'i gilydd i rymuso cymunedau i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol i bobl ifanc, a gwella ansawdd bywyd trigolion.  Mae Partneriaeth Alcohol Cymunedol Caerdydd (CAP) yn canolbwyntio ar y grŵp oedran 18-25 oed i leihau niwed alcohol a hyrwyddo bywyd nos diogel a phleserus.

Mae rhagor o wybodaeth am Yfed yn Gyfrifol wrth Gymdeithasu ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am Reoli'ch Yfed ar gael yma.

 

Grŵp Alcohol

Sefydlwyd y Grŵp Alcohol i wella perthynas y boblogaeth ag alcohol a lleihau effeithiau negyddol yfed alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'n is-grŵp o Fwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro.

 

 

Cyngor

Gall yfed alcohol yn gymedrol fod yn bleserus, ond gall yfed yn ormodol neu 'oryfed mewn pyliau' gael effaith niweidiol ar ein hiechyd a'n llesiant. Weithiau, nid ydym i bob pwrpas yn cadw golwg ar faint yr ydym yn ei yfed, ac yn yfed mwy nag yr ydym yn bwriadu gwneud.

Mae ymchwil wedi dangos bod 1 o bob 5 ohonom yn yfed mwy yn ystod pandemig COVID-19. Gallai hyn gynnwys dechrau yfed yn gynharach yn y dydd, yfed ar ddiwrnodau pan na fyddech fel arfer, ac yfed mwy mewn sesiwn. I gael rhagor o wybodaeth am leihau'r risgiau o yfed alcohol ewch i Cadw Fi’n Iach.

 

Ffynonellau pellach o gymorth i Oedolion

Ffynonellau pellach o gymorth i Bobl Ifanc

Adnoddau Defnyddiol

 

Manylion cyswllt

Lauren Idowu, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd: Ffôn 02921 836505.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Dilynwch ni