Diweddariad 03/09/2026: Rydym yn deall y gallai'r newyddion hyn fod yn ofidus neu'n bryderus, yn enwedig os ydych chi'n aros am lawdriniaeth cadarnhau rhywedd ar hyn o bryd. Rydym am esbonio beth sydd wedi digwydd, beth mae'n ei olygu i chi, a sut y byddwn yn parhau i'ch cefnogi. Ewch i’r dudalen we ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Diweddariad Gwasanaeth Rhywedd Cymru – 3 Medi 2026 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Rydym yn deall y gallai fod gan lawer o gleifion gwestiynau am yr hyn y mae’r cyhoeddiad hwn yn ei olygu i’w gofal. Os oes gennych gwestiynau neu bryderon, neu os oes angen rhywfaint o gymorth arnoch, cysylltwch â ni drwy e-bost: Cav.Concerns@wales.nhs.uk.
Yng ngoleuni dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys, rydym am i chi wybod eich bod yn ddilys,
a bod ein hymrwymiad i'ch urddas a'ch diogelwch yn ddiysgog.
Mae'r dyfarniad hwn wedi achosi gofid, ond rydym am eich sicrhau nad yw
hyn yn effeithio ar fynediad at ein gwasanaeth a gwaith timau rhywedd lleol.
Adroddwch am ddigwyddiad casineb yn ddiogel drwy eiriolwr yn: Hate hurts Wales | GOV.WALES
Dewch o hyd i sefydliadau cefnogol drwy'r ddolen hon: Support resources for our trans friends and allies | Good Law Project
Polisi ar gyfer pobl nad ydynt yn mynychu: Os byddwch yn colli apwyntiad heb roi gwybod i ni, byddwn yn cynnig un apwyntiad pellach. Os na fyddwch yn mynychu'r apwyntiad hwn, cewch eich tynnu oddi ar ein rhestr aros a bydd angen i chi ddychwelyd at eich meddyg teulu a gofyn am atgyfeiriad newydd i Wasanaeth Rhywedd Cymru.
Eich Atgyfeiriad a'ch Apwyntiad